Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Un o'n prif bryderon ni oedd, ac yw, cynhwysiant digidol. Er bod mwy a mwy o bobl yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn, mae'r gost mynediad yn aml iawn yn rhwystr i lawer, yn enwedig eto yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae risg y bydd mynediad at fand eang yn dod yn ryw fath o foethusrwydd na fydd nifer o bobl yn gallu ei fforddio. Felly, pa gamau y mae modd eu cymryd? Mae sawl darparwr band eang, rŷn ni'n gwybod, yn cynnig tariffau cymdeithasol am gost is i'r aelwydydd hynny sy'n gymwys ar gyfer y tariff hwnnw. Ond mi gafodd aelodau'r pwyllgor eu syfrdanu fod cyn lleied yn manteisio ar y tariffau cymdeithasol yma. Dim ond 3.2 y cant o aelwydydd cymwys ar gyfer tariff cymdeithasol sydd ar dariff cymdeithasol. Mae hynny yn druenus o isel, ac a dweud y gwir, mae e'n warth o beth.
Mae'n rhaid i gofrestru ar dariffau cymdeithasol fod yn broses mwy eglur, yn rhywbeth mwy syml. Dylid hyd yn oed ystyried cofrestru aelwydydd cymwys yn awtomatig. Mae hwnna'n sicr yn opsiwn, a dwi'n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers hynny wedi cyflwyno mesurau i'w gwneud hi'n haws i bobl gofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol. Dwi'n gobeithio y byddan nhw yn cael effaith gadarnhaol. Yn ei ymateb i’n hadroddiad, fe ddywedodd y Gweinidog fod swyddogion yn uned cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol. Dwi'n croesawu hynny, ac yn sicr, fel pwyllgor, rŷn ni eisiau gweld mwy o bobl yn manteisio ar yr hyn y mae ganddyn nhw hawl i'w gael.
Roedd y mudo o linellau tir—landlines—i brotocol llais dros y rhyngrwyd yn bryder mawr i grwpiau sy’n cynrychioli defnyddwyr. Mae nifer ohonom ni fel Aelodau yn lleol, dwi'n siŵr, wedi cael ymwneud â'r mater yna. Mae materion a allai fod yn rhai sylweddol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni yn codi yn sgil y newid arfaethedig yna. Efallai eu bod yn byw mewn ardal anghysbell neu wledig gyda mynediad cyfyngedig i'r rhyngrwyd. Rŷn ni yn falch, wrth gwrs, bod y broses fudo honno wedi’i gohirio am y tro, ac rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i ni fel pwyllgor ar y mater yma.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried y dull a ddefnyddiwyd yn yr Alban, sydd, ers dros bum mlynedd erbyn hyn, wedi cyflwyno rhaglen genedlaethol i helpu pobl i symud o analog i ddigidol, yn arbennig pobl sy'n defnyddio teleofal a monitro iechyd o bell. Hefyd, mae gan yr Alban gynllun teleofal digidol i gefnogi’r broses fudo ar gyfer y rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf. Mi fyddwn i yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog ystyried y cynigion hyn ac, os nad yw e'n gallu ymateb iddynt heddiw, ei fod yn rhoi diweddariad ysgrifenedig i ni ar y materion yma maes i law.
I gloi felly, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i’r rhanddeiliaid a gyfrannodd at ein gwaith ni, ac i’r Gweinidog am ei ymateb adeiladol i’r adroddiad. Mae cynnydd sylweddol wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf tuag at gynyddu mynediad at fand eang. Rŷn ni bellach nawr lawr i 0.6 y cant—y 0.6 y cant olaf hynny—ac mae technolegau newydd bellach ar gael, wrth gwrs, a ddylai wneud yr ymdrech olaf honno yn fwy cyraeddadwy, a, gobeithio, yn fwy fforddiadwy hefyd. Ond does dim amheuaeth bod angen cefnogaeth y Llywodraeth ar yr eiddo hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried anghenion penodol Cymru wrth ddylunio a chreu ei phecynnau ariannol ac ariannu nesaf. Allwn ni ddim ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig.
Ond yr her fwyaf arwyddocaol i lawer mewn cymdeithas ar hyn o bryd, wrth gwrs, fydd cost mynediad ei hun. I lawer, bydd cost band eang yn ormod, a bydd y drws i gynifer o’r gwasanaethau sydd ar gael ar-lein—y rhai y mae nifer ohonom ni erbyn hyn yn eu cymryd yn ganiataol—ar glo i lawer yn ormod o bobl Cymru. Diolch.