Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch i'r pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig fy nghyfaill Llyr Gruffydd fan hyn, am yr adroddiad yma. Mae'n un sy'n arbennig o berthnasol i Ddwyfor Meirionnydd. Dwi am ganolbwyntio'n benodol ar yr adran sy'n sôn am gysylltu y rhai hynny sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae'n rhaid imi fynegi fy siom aruthrol yn yr agwedd eithaf di-hid y mae rhai o'r darparwyr ac eraill yn y maes yn ei dangos tuag at yr 1 y cant, neu yn wir rhagor, o bobl sy'n methu, ac a fydd yn methu, â chael mynediad i'r we. Mae yna sôn am ddefnyddio technolegau eraill, megis ffonau symudol neu loeren, ond mae hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth elfennol o’n cymunedau gwledig. Edrychwch ar Ddwyfor Meirionnydd; does yna ddim mynediad at signal ffôn mewn llawer o rannau yma, ac mae cael lloeren i weithio naill ai yn amhosibl oherwydd natur mynyddig y dyffrynnoedd yn yr ardal neu yn fwy costus a llai dibynadwy.
Mae yna fusnesau yn Islawr-dref, ger Dolgellau, er enghraifft, sydd wedi trio eu gorau i gael rhyngrwyd i'w cyrraedd acw, ond mae’r costau iddyn nhw’n ddegau o filoedd o bunnoedd. Mae un perchennog busnes a’i deulu rŵan yn edrych i symud i’r Amwythig oherwydd y methiant yma i gael mynediad at y we, ac felly ei anallu i redeg ei fusnes. Mae gen i deulu yng Nghwm Pennant sy’n weithwyr allweddol ac yn gorfod gweithio o adref, a thra bod pob un tŷ cyfagos wedi cael mynediad at y we—pob un yn dŷ gwyliau neu'n dŷ haf, gyda llaw—dydyn nhw ddim wedi cael mynediad, ac maen nhw wedi cael dyfynbris i osod isadeiledd o dros £74,000. Maen nhw fel teulu sydd wedi byw yno am sawl cenhedlaeth bellach yn gorfod edrych i symud o’r ardal.
Mae cymuned Brithdir wedi llwyddo i ddod ynghyd â chael y nifer o bobl angenrheidiol i gael y vouchers er mwyn cael BT i wneud y gwaith gosod isadeiledd yno, ond, er gwthio a gwthio am flwyddyn a mwy, maen nhw’n dal i aros i’r gwaith gael ei orffen blynyddoedd yn ddiweddarach. Roeddwn i yng Nghricieth wythnos diwethaf, ac yno mae busnesau’n colli pres oherwydd bod yna broblem sylweddol ar y mast ffôn sy’n darparu signal i’r terminalau talu yn y siopau a busnesau, efo gweithwyr lleol megis adeiladwyr yn ddibynnol ar signal ffôn er mwyn cael busnes hefyd. Mae’r cyfan wedi bod lawr ers 18 Hydref, a dim ymateb na dim sôn am atgyweirio. Dyma ydy’r realiti byw mewn cymuned wledig. Ac fel y gwelwch chi, mae’r problemau yma, boed yn rhyngrwyd neu’n signal ffôn, yn rhai cyffredin iawn yn ein hardaloedd ni, ac mae’r ffordd y mae’r cwmnïau a darparwyr mawr yn eu diystyru ac yn eu hanwybyddu yn gwbl, gwbl warthus.
Felly, fel y dywedodd fy nghyfeillion Luke Fletcher a Carolyn Thomas, mae mynediad at y we bellach yn un o hanfodion bywyd yn yr oes fodern. Ydy, mae’n swnio’n rhyfedd, ond mae o’n wir. Mae’n gwbl hanfodol, er enghraifft, os am wneud gwaith ysgol, os am ffermio, os am redeg busnes o ran gwerthu neu farchnata, os am gysylltu efo pobl eraill, ac yn y blaen. Rydyn ni yma, pob un, dwi’n siŵr, yn ddibynnol ar WhatsApp i gadw cyswllt a rhannu gwybodaeth. Os ydyn ni’n ddibynnol yn ar y gwaith hynny a’r dechnoleg yma, yna mae’r un yn wir am y bobl rydyn ni’n eu cynrychioli yn ein cymunedau gwledig. Mae pob un yma, er enghraifft, o bryd i’w gilydd, yn ffilmio eitemau i’w postio ar y we. Mae pobl hefyd yn ein cymunedau ni yn gwneud yr un peth. Mae plant yn siarad efo’i gilydd a sôn a ydyn nhw wedi gweld y rhaglen ddiwethaf ar Netflix, neu ar YouTube, wedi gweld PewDiePie a’r bobl yma ar YouTube, ac mae’r plant sydd yng Nghwm Pennant ac yn y blaen yn dweud, ‘Na, mae arnaf i ofn fy mod i ddim wedi’i weld o’, ac maen nhw’n cael eu bwlio, neu maen nhw’n cael eu gadael allan o sgyrsiau a thrafodaethau.
Felly, mae argymhelliad 3 sydd yn yr adroddiad rhagorol yma yn hanfodol, ond fe hoffwn i awgrymu nad ydy’r Llywodraeth yn rhoi monopoli i Openreach o hyn ymlaen. Mae’r arbrawf yna sydd wedi gadael gormod o’n cymunedau i lawr, ac wedi rhoi gormod o bres cyhoeddus Cymru i un cwmni mawr allanol, wedi methu, ac yn hytrach na hynny, dylid hyrwyddo darparwyr a chwmnïau cydweithredol lleol, gan ddysgu o arfer da cwmnïau megis Guifi yng Nghatalonia, HSLnet yn yr Iseldiroedd, neu B4RN—Broadband for the Rural North Ltd—yn sir Gaerhirfryn. Dyna ydy’r ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn.