Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Yn bendant, a byddwch wedi clywed fy ateb cychwynnol i Jayne Bryant. Ac, fel y soniais, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol BEIS i geisio cyfarfod brys. Rwy'n credu mai dim ond ddoe neu heddiw yr anfonwyd y llythyr hwnnw. Felly, byddwn i'n gobeithio—ac os oes gennych chi unrhyw ddylanwad—a byddwn i'n awgrymu ei fod yn gyfarfod brys i drafod hyn, wrth symud ymlaen. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol ein bod wedi bod yn aros yn hir am ymateb gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn falch iawn ei bod yn ymddangos bod ychydig o frys arnyn nhw ynghylch y mater hwn.