1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2022.
1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i rwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fab? OQ58769
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ffaith bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud o'r diwedd, sydd wedi rhoi rhywfaint o eglurder sydd i'w groesawu. Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion yn hanfodol i economi Cymru, ac rydym yn galw eto ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei strategaeth ar led-ddargludyddion a buddsoddi yn y sector hynod o bwysig hwn ar frys.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Roedd penderfyniad Llywodraeth y DU i atal y pryniant gan Nexperia oherwydd materion diogelwch cenedlaethol, yn ddealladwy, wedi cipio'r penawdau. Fodd bynnag, yr hyn sy'n cael ei golli yw'r effaith y mae'r cyhoeddiad hwn yn ei gael ar y gweithlu hynod fedrus ac ymroddedig o dros 500. Fe fyddwch yn gwybod, dros y blynyddoedd, mewn gwahanol ymgnawdoliadau, fod y gweithlu wedi wynebu llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol y safle. Mae addewid Nexperia yn cynnig sefydlogrwydd gyda buddsoddiad ychwanegol. Mae'r swyddi'n rhai uwch-dechnoleg ac, yn ddiweddar, wedi bod yn talu'n dda. Pa ran a gafodd Llywodraeth Cymru yn y penderfyniad hwnnw, a pha drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar ôl y penderfyniad hwnnw? Ac a all y Gweinidog fy sicrhau i, fy etholwyr i a'r gweithlu o bob rhan o'r rhanbarth y bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y swyddi arloesol hyn, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn cael eu diogelu?
Diolch. Mae gan Gasnewydd glwstwr lled-ddargludyddion o arwyddocâd byd-eang, ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'n cael ei ddal yn ôl o ganlyniad i'r bennod hon. Ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant wastad wedi sefyll dros y sector hollbwysig hwn yn ei hetholaeth, ac rydym yn uchelgeisiol o ran y rhan y gall ei chwarae. Rwy'n credu bod gweinyddiaeth Biden wir wedi rhoi blaenoriaeth enfawr i'r sector hwn hefyd, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn teimlo'n rhwystredig iawn ynghylch methiant Llywodraeth y DU i flaenoriaethu'r sector hwn yn y DU. Yn ddiweddar, bu Gweinidog yr Economi yn gweithio gyda KLA i ddatgloi buddsoddiad newydd mawr yn y clwstwr. Bydd hynny'n cefnogi 750 o swyddi newydd yng Nghasnewydd, sy'n tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru ymhellach. Ac mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a'r Strategaeth Ddiwydiannol, yn gofyn am gyfarfod ar frys. Fel Llywodraeth, nid oes gennym yr arbenigedd i asesu'r materion diogelwch dan sylw, ond dylai strategaeth lled-ddargludyddion y DU fod ar waith nawr i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau, gyda sicrwydd ar gyfer pob lefel o Lywodraeth.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Jayne Bryant am godi'r cwestiwn yma. Gweinidog, yn amlwg mae penderfyniad Llywodraeth y DU i atal Nexperia rhag caffael Newport Wafer Fab am resymau diogelwch cenedlaethol wedi achosi pryder mawr ymhlith y gweithlu ynghylch diogelwch eu swyddi a dyfodol y cwmni, y mae fy nghyd-Aelod newydd ei grybwyll. Mae dyfarniad ar faterion diogelwch cenedlaethol yn dal yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan, ac yn briodol felly. Fodd bynnag, ddydd Iau diwethaf, ysgrifennais, ynghyd â Gweinidog yr Economi, fel y gwnaethoch sôn, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, Grant Shapps, yn gofyn am eglurhad o safbwynt y Llywodraeth a cheisio gwarant y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i warchod swyddi'r gweithlu. A wnewch chi, Gweinidog, ymrwymo i weithio'n gydlynus â Llywodraeth y DU i gefnogi'r gweithlu yn Newport Wafer Fab i ddiogelu dyfodol y cwmni, oherwydd ni all Casnewydd fforddio colli swyddi medrus iawn â chyflog da mewn cwmnïau fel hyn, wrth symud ymlaen?
Yn bendant, a byddwch wedi clywed fy ateb cychwynnol i Jayne Bryant. Ac, fel y soniais, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol BEIS i geisio cyfarfod brys. Rwy'n credu mai dim ond ddoe neu heddiw yr anfonwyd y llythyr hwnnw. Felly, byddwn i'n gobeithio—ac os oes gennych chi unrhyw ddylanwad—a byddwn i'n awgrymu ei fod yn gyfarfod brys i drafod hyn, wrth symud ymlaen. Dywedais yn fy ateb gwreiddiol ein bod wedi bod yn aros yn hir am ymateb gan Lywodraeth y DU, ac rydym yn falch iawn ei bod yn ymddangos bod ychydig o frys arnyn nhw ynghylch y mater hwn.
Gweinidog, mae etholwyr Islwyn sy'n gweithio i gwmni Nexperia wedi cysylltu â mi ac maen nhw'n bryderus iawn ynghylch diogelwch eu swyddi yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU. Mewn llythyr at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU, Grant Shapps, dywedodd cymdeithas staff Nexperia fod Llywodraeth y DU wedi bwrw cwmwl tywyll dros dde Cymru. Gweinidog, fory, bydd cymdeithas y staff yn teithio i San Steffan gyda Ruth Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, i gyflwyno'r pryderon hynny. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i ddiogelu'r clwstwr blaengar o gwmnïau lled-ddargludyddion yn rhanbarth Gwent, sydd mor hanfodol i economi'r de-ddwyrain? A oes cynlluniau i chwilio am drafodaethau brys wyneb yn wyneb gyda swyddogion cyfatebol Llywodraeth y DU i gytuno'n gyflym ar ffordd ymlaen a sicrhau na fydd un swydd â sgiliau uchel yn cael ei pheryglu? Hefyd, a fyddech chi a Gweinidog yr economi yn barod i gwrdd â mi a chydweithwyr eraill Gwent i fynd i'r afael â phryderon difrifol ein hetholwyr?
Fel yr wyf eisoes wedi sôn, mae Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu i ofyn am gyfarfod wyneb yn wyneb gydag Ysgrifennydd Gwladol BEIS, ac rwy'n siŵr, ar ôl iddo gael y cyfarfod brys hwnnw, bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau lleol am y datblygiadau diweddaraf yn y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau gorau y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw parhau i roi rhywfaint o bwysau o ddifrif ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi ei strategaeth lled-ddargludyddion ar frys, oherwydd rydym ni'n gwybod y byddai hynny wedyn, nid yn unig yn sicrhau swyddi yr ydym yn siarad amdanyn nhw nawr, yng Ngorllewin Casnewydd, ond hefyd yn denu mwy o fusnesau uwch-dechnoleg i Gymru, a hefyd i mewn i'r DU, o ran hynny.