Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:50, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Os felly, pam mae Keir Starmer yn siarad am wneud i Brexit weithio yn hytrach na mynd â ni'n ôl i'r farchnad sengl?

Nawr, os gallwn droi at Qatar, rydych chi wedi gweld adroddiadau fod cefnogwyr Cymru, gan gynnwys cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, wedi cael eu hatal wrth fynd i mewn i'r stadiwm neithiwr am wisgo hetiau a chrysau-T enfys. Byddwch hefyd wedi darllen bod FIFA yn gwrthod diystyru cosb chwaraeon i chwaraewyr sy'n gwisgo band braich 'OneLove'. Onid dangos y cerdyn coch i homoffobia y dylai FIFA ei wneud, ac ni ddylai fod yn fater i chwaraewyr wneud hyn ar eu rhan? Ydych chi'n credu bod yna gyfle adeg gêm Cymru yn erbyn Lloegr i anfon neges bwerus, sydd o bosibl yn cynnwys swyddogion y ddwy gymdeithas, ond hefyd Gweinidog yr Economi yn gwisgo band braich 'OneLove' neu symbol enfys arall, nid yn unig yn y stadiwm ond hefyd mewn cyfarfodydd swyddogol, fel cynrychiolydd pawb yng Nghymru a hefyd ein gwerthoedd cyffredinol o gydraddoldeb yn ddieithriad, y mae cenedl gyfan Cymru a thîm Cymru yn eu cefnogi?