1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Arweinydd y tŷ, mae'n amhosibl peidio â theimlo'n ddigalon wrth ddarllen yr adroddiadau yn The Sunday Times am weithgareddau swyddogion heddlu yn llu Gwent, ac yn arbennig mewn wythnos pan ydym ni'n tynnu sylw at drais domestig ac yn arbennig trais yn erbyn menywod. Mae'n drawmatig, a dweud y lleiaf, bod y cyhuddiadau, fe ddywedwn ni, a'r datguddiadau yn yr erthygl honno yn tynnu sylw at gam-drin mor eang o fewn llu Gwent. Y bore yma, dywedodd merch y swyddog a enwyd yn yr adroddiad ei bod hi a'i mam wedi'u parlysu gan ofn wrth feddwl beth y gallen nhw ei wneud iddyn nhw am eu bod wedi amlygu'r hyn a ddarganfyddon nhw ar ffôn ei diweddar dad. Oes gennych chi ffydd y gall heddlu Gwent amddiffyn dioddefwyr trais yn y cartref pan fydd gwraig a merch rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â thrais domestig yn gwneud datganiadau o'r fath—a'u bod nhw'n arswydo wrth feddwl beth y gallen nhw ei wneud iddyn nhw?
Rwy'n credu bod yr honiadau diweddaraf yn adroddiad The Sunday Times ddydd Sul diwethaf yn peri pryder mawr. Fel Llywodraeth, ac rwy'n siŵr fel pawb yn y Siambr yma, rydym ni'n sefyll yn erbyn llygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia ym mhob ffurf. Dydw i ddim wedi gweld y sylwadau a wnaed gan y teulu hyd yma. Fel y gwyddoch chi, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru; mae'n fater i Lywodraeth y DU, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond wrth gwrs rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid plismona yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod, fel Llywodraeth, yn sicr, fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cymryd yr adroddiadau hyn o ddifrif ac rwy'n siŵr, yn dilyn y sylwadau, yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw, gan y teulu, y bydd eisiau sicrwydd pellach. Mae hi wedi gofyn am sicrwydd gan y prif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent ac mae wedi cwrdd â'r ddau ohonyn nhw i drafod yr honiadau ac wedi cael sicrwydd fod Heddlu Gwent yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif.
Gallaf ddweud hyn, arweinydd y tŷ: nid oes gennyf unrhyw ffydd yn uwch arweinyddiaeth llu Gwent, boed hynny ar lefel swyddogion neu ar lefel y comisiynydd heddlu a throseddu. Mae'r datguddiadau hyn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf. Rwy'n canmol gweithgareddau'r heddlu wrth rybuddio pobl yn yr ardal fod 33 o fenywod yr wythnos yn wynebu trais domestig, yn ofni am eu bywyd neu'n ofni anaf, ond sut ar y ddaear, gyda chyhuddiadau o'r fath wedi eu cyflwyno—cyhuddiadau go iawn sy'n dweud yn union sut y mae hi—fod pobl â gormod o ofn i fynd at unigolion i geisio cymorth, sut all y 33 o fenywod hynny, heb sôn am weddill y gymuned yn ardal Gwent, gael y sicrwydd hwnnw? Felly, rwyf wedi dweud nad oes gennyf i ffydd yng ngallu'r uwch reolwyr yn Heddlu Gwent i unioni'r sefyllfa. Gofynnais i chi yn y cwestiwn cyntaf a oes gennych chi ffydd.
Mae gennym ni ffydd. Fel y dywedais i, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cwrdd â'r prif gwnstabl a'r comisiynydd heddlu a throseddu i drafod y pryderon. Hyd y gwn i, nid yw wedi cael cyfarfod pellach. Fe wnaethoch chi sôn am y sylwadau a gyflwynodd y teulu. Mae'n bwysig iawn, yn amlwg, bod gan bobl sydd eisiau amlygu eu pryderon, os ydyn nhw wedi dioddef unrhyw drosedd, ffydd yn yr heddlu, a dyna pam y mae hi mor bwysig bod yr honiadau hyn yn cael eu trin yn syth, ac yn sicr dyna ddigwyddodd. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod cyn-bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, Nazir Afzal, wedi galw am ymchwiliad cenedlaethol ar y mater hwn. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn amlwg, yn ei drafod â Heddlu Gwent, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ceisio cael cyfarfod pellach mewn cysylltiad â'r sylwadau y cyfeirioch chi atyn nhw a wnaed heddiw gan y teulu.
A yw'r Llywodraeth wedi ffurfio barn ar ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi yn ei gynhadledd i'r wasg yr wythnos diwethaf wedi dweud bod y Llywodraeth yn y broses o ffurfio barn. Ond, os ydych chi heddiw, er enghraifft, yn byw yn ardal Gwent a'ch bod chi'n mynd i wefan y rheolaeth wleidyddol—h.y. gwefan y comisiynydd heddlu a throseddu—does dim sôn o gwbl am ba gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r cwynion hyn. Gallwch ddod o hyd i fideo sy'n sôn am ChuChu TV Police yn casglu ieir sy'n achosi problemau yn yr ardal, ond allwch chi ddim dod o hyd i unrhyw beth ynghylch y cyhuddiadau hyn yn erbyn Heddlu Gwent. Rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt: mae hyn yn ymwneud â ffydd a mynd i'r afael â rhai o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol posibl y gellid eu cyflwyno yn erbyn heddlu, a'i allu i ymdrin â'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Ydych chi, fel fi, yn cytuno y dylai'r comisiynydd heddlu a throseddu edrych yn y drych a gofyn ai ef yw'r person gorau i ddatrys y broblem hon yn ardal Heddlu Gwent?
Mae eich cyfeiriad at y wefan, rwy'n credu, yn hynod o bryderus, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei lle, ac fe ofynnaf iddi wneud rhai ymholiadau penodol mewn cysylltiad â hynny. Ynghylch y farn a oes angen ymchwiliad cenedlaethol, mae'n amlwg fod plismona yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, a nhw felly sydd i benderfynu a ydyn nhw'n credu y dylai ymchwiliad ddigwydd.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi oedi'r cyhoeddiad ffurfiol ynghylch streicio yn yr Alban, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi ailagor trafodaethau cyflog. Pam ydych chi, hyd yn hyn, yn gwrthod gwneud yr un peth? Yr wythnos diwethaf, awgrymodd y Prif Weinidog na fyddai'n iawn i siarad â'r RCN tra bod undebau eraill hefyd yn pleidleisio, felly a gawn ni ddisgwyl, pan fydd canlyniadau pleidleisiau'r pum undeb iechyd arall hynny yn cael eu cyhoeddi yn y pythefnos nesaf, y byddwch chi'n ailagor trafodaethau bryd hynny? Fe ofynnodd y Prif Weinidog i ni ym Mhlaid Cymru o ble y gallai'r arian ddod ar gyfer cynnig cyflog uwch eleni. Wel, a allaf i awgrymu dwy ffynhonnell bosibl? Un ohonyn nhw yw'r gwariant presennol sydd heb ei ddyrannu, a'r ffigur diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer hwnnw, ym mis Mehefin, oedd £152 miliwn; y llall yw'r gronfa wrth gefn a oedd yn £92 miliwn. A wnewch chi efallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch beth yw'r ffigyrau hynny nawr, a pham na ellir eu defnyddio fel ffynhonnell arian ar gyfer cynnig cyflog diwygiedig?
Fe wnaf ymdrin â'ch pwynt olaf am gyllid heb ei ddyrannu a chronfeydd wrth gefn. Rwy'n siŵr bod arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa ariannol y mae Llywodraeth y DU ynddi. Fe glywsoch chi fi, yn fy atebion cynharach ynghylch datganiad yr hydref, yn sôn am y bwlch go iawn sy'n dal yno—. Mae chwyddiant yn 11.1 y cant—11.1 y cant. Nid yw ein cyllideb yn agos at allu ymdopi â'r ffigur hwnnw.
O ran eich cwestiwn penodol ynghylch yr RCN, nid yr RCN yn unig sydd wedi pleidleisio; nid undebau iechyd eraill yn unig sydd wedi pleidleisio. Rydym ni'n gwybod bod gweithwyr post ar streic, rydym ni'n gwybod bod gweithwyr rheilffyrdd, eto, ar streic, mae bargyfreithwyr ar streic, rwy'n credu bod darlithwyr prifysgol—. Mae ar draws ein sector cyhoeddus ac, yn anffodus, mae ein setliad ariannol presennol yn is o lawer na'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i ymateb i'r heriau sylweddol iawn y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr ledled Cymru yn eu hwynebu.
Byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ymdrin â'r cwestiwn penodol: a oes gennych arian yng nghronfa wrth gefn Cymru, ac a oes gennych chi wariant heb ei ddyrannu ar gael i chi.
Nawr, mae Keir Starmer yn dweud ei fod eisiau i'r GIG ddibynnu llai ar feddygon a nyrsys tramor a'i fod eisiau torri dibyniaeth Prydain ar fewnfudwyr. Ydy'r math yma o rethreg yn eich poeni chi? Pan awgrymodd y farwnes Dorïaidd, Dido Harding, y llynedd, y dylid dod â dibyniaeth y GIG ar staff tramor i ben, dywedodd Eluned Morgan hyn:
'Dylem ni fod yn dathlu'r bobl yma sydd wedi ein helpu ni drwy'r pandemig, yn hytrach nag ymddangos ein bod ni eisiau cau'r drws ar y bobl yma sydd wir wedi camu i'r adwy yn ystod ein cyfnod ni o angen.'
Felly, ydy Llywodraeth Cymru dim ond yn beirniadu gwleidyddiaeth chwiban ci ymfflamychol pan fo Ceidwadwr ar fai? Ac onid y ddibyniaeth go iawn yn y GIG yw'r gwariant ar staff asiantaeth, a gododd i £133 miliwn y llynedd, i nyrsys yn unig, sy'n breifateiddio drwy'r drws cefn i bob pwrpas? Byddai gosod uchafswm ar wariant ar staff asiantaeth y gaeaf hwn yn rhoi ffordd arall i chi roi'r codiad cyflog teilwng i staff y GIG, o ble bynnag y maen nhw'n dod, y maen nhw'n ei haeddu.
Nid yw'r ffigyrau gennyf wrth law yr ydych yn gofyn amdanyn nhw ynghylch cronfeydd wrth gefn a chyllid heb ei ddyrannu—. Ond y cyfan y gallaf ei ddweud i'ch sicrhau chi yw mai ychydig iawn fydd ar ôl o'r gronfa wrth gefn neu o'r cyllid heb ei ddyrannu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, oherwydd y bylchau sydd gennym yn ein setliad oddi wrth Lywodraeth y DU.
Dydw i ddim wedi gweld naill ai erthygl na datganiad Keir Starmer. Fodd bynnag, yr hyn a ddywedaf yw: fel GIG yma yng Nghymru, rydym yn sicr yn dibynnu ar bobl o dramor i gefnogi nid yn unig ein gwasanaeth iechyd, ond hefyd gofal cymdeithasol. Ac mae llawer o'r gwir broblemau sydd gennym ni mewn gofal cymdeithasol nawr oherwydd bod cymaint—a gallwch fynd â hyn yn ôl i'r amser pan adawom ni'r Undeb Ewropeaidd—ein staff gofal cymdeithasol wedi gadael y wlad. Roedd llawer ohonyn nhw'n ddinasyddion yr UE, ac eraill. Rwy'n gwybod yn fy etholaeth fy hun, yn Wrecsam, mae gennym nifer sylweddol o weithwyr Ffilipinaidd sy'n ein cefnogi ni yn ein sector gofal cymdeithasol. Felly, rydym ni'n dibynnu ar bobl o dramor i helpu ni i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—ac mewn meysydd eraill. Does ond rhaid edrych o fewn y sector amaethyddol. Rwy'n gwybod bod ein ffermwyr, eto, yn dibynnu ar weithwyr mudol.
Os felly, pam mae Keir Starmer yn siarad am wneud i Brexit weithio yn hytrach na mynd â ni'n ôl i'r farchnad sengl?
Nawr, os gallwn droi at Qatar, rydych chi wedi gweld adroddiadau fod cefnogwyr Cymru, gan gynnwys cyn-gapten Cymru, Laura McAllister, wedi cael eu hatal wrth fynd i mewn i'r stadiwm neithiwr am wisgo hetiau a chrysau-T enfys. Byddwch hefyd wedi darllen bod FIFA yn gwrthod diystyru cosb chwaraeon i chwaraewyr sy'n gwisgo band braich 'OneLove'. Onid dangos y cerdyn coch i homoffobia y dylai FIFA ei wneud, ac ni ddylai fod yn fater i chwaraewyr wneud hyn ar eu rhan? Ydych chi'n credu bod yna gyfle adeg gêm Cymru yn erbyn Lloegr i anfon neges bwerus, sydd o bosibl yn cynnwys swyddogion y ddwy gymdeithas, ond hefyd Gweinidog yr Economi yn gwisgo band braich 'OneLove' neu symbol enfys arall, nid yn unig yn y stadiwm ond hefyd mewn cyfarfodydd swyddogol, fel cynrychiolydd pawb yng Nghymru a hefyd ein gwerthoedd cyffredinol o gydraddoldeb yn ddieithriad, y mae cenedl gyfan Cymru a thîm Cymru yn eu cefnogi?
Yn hollol. Roedd yn dro pedol munud olaf gwarthus gan FIFA. Roedd yn osodiad gwahanol iawn i'r hyn yr oedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n ei wneud. Rwy'n credu mai'r un cychwynnol oedd y bydden nhw'n dirwyo'r gymdeithas bêl-droed, ac rwy'n credu yn sicr y cymdeithasau pêl-droed Ewropeaidd a oedd wedi cytuno i hynny, fe wnaethon nhw dderbyn hynny, i raddau, os hoffech chi. Mae cosbau chwaraeon yn wahanol iawn, iawn, onid ydyn nhw? Pe bai Gareth Bale wedi cael ei gosbi ac yna ei gosbi'r ail dro, ni fyddai wedi bod ar y cae i gymryd y gic gosb, er enghraifft, felly gallwch chi weld yr effaith y byddai wedi'i gael. Ond, FIFA, roedd e'n hollol warthus. Byddai wedi bod yn ddatganiad mor syml ond pwerus, rwy'n credu. Ac rydych chi'n hollol iawn, gwelsom un o'n llysgenhadon ein hunain, Laura McAllister, yn cael ei gorfodi i dynnu ei het. Rwy'n adnabod rhywun yn Qatar neithiwr y gofynnwyd iddo dynnu ei gareiau sgidiau enfys o'i esgidiau ymarfer. Mae'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n gwybod ein bod wedi bod yn trafod gyda'r llysgenhadaeth yn Doha, yn ceisio gofyn am rywfaint o eglurhad brys na fydd hetiau bwced, careiau esgidiau neu grysau-T enfys yn cael eu gwahardd o stadia, ac rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld achosion eraill fel hyn. Rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gêm rhwng Cymru a Lloegr yr wythnos nesaf a sut y gallwn wneud y datganiad pwerus hwnnw, sydd i ni, yn fater pwysig iawn, iawn. Rwy'n credu bod FIFA wedi colli cyfle da ac maen nhw wedi achosi cymaint o loes a gofid i gymaint o bobl.