Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:55, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gen i ofn nad oes gen i ateb i'ch cwestiwn olaf am ddigwyddiadau byth. Byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cysylltiad â hynny.

Fel y dywedais i yn fy ateb agoriadol i chi, mae prinder staff nyrsio byd-eang; nid yw hyn yn unigryw i Gymru na'r DU yn unig. Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod gennym gymaint o staff y gwasanaeth iechyd â phosibl ar draws ein byrddau iechyd, ac rydym wedi gweld cynnydd, yn sicr, yng ngweithlu'r GIG. Mae bellach ar ei lefel uchaf erioed mewn rhai ardaloedd. Y ffigur cyfwerth ag amser llawn o'r holl staff yw 88,638 ledled Cymru, sydd 12 y cant yn uwch nag yr oedd dair blynedd yn ôl.