Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Mae eich cyfeiriad at y wefan, rwy'n credu, yn hynod o bryderus, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ei lle, ac fe ofynnaf iddi wneud rhai ymholiadau penodol mewn cysylltiad â hynny. Ynghylch y farn a oes angen ymchwiliad cenedlaethol, mae'n amlwg fod plismona yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, a nhw felly sydd i benderfynu a ydyn nhw'n credu y dylai ymchwiliad ddigwydd.