Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Trefnydd, yr wythnos diwethaf ymwelais ag Ysgol Gynradd Capcoch yn Abercwmboi i weld y gwaith gwych a gwirioneddol hyfryd y mae'r ysgol yn ei wneud i geisio brwydro yn erbyn effeithiau tlodi plant. Mae ymyriadau rhagweithiol yr ysgol, gan gynnwys adnoddau cyfnewid dillad, banc bwyd a'i hagwedd tuag at bethau fel tripiau ysgol, wedi cael eu canmol gan Estyn. Mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y rhagamcanir y bydd tlodi plant cymharol yn cyrraedd ei lefel uchaf nawr ers y 1990au. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi ysgolion i gefnogi plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw a osodir arnom gan Lywodraeth Dorïaidd hon y DU?