Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Wel, rydym yn cydnabod bod y cynnydd mewn costau ynni, yr argyfwng costau byw, yn amlwg yn rhoi mwy o bwysau ar ein hysgolion, ar ein hawdurdodau lleol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal ag ar gymaint o'n hetholwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull o ddylanwadu posibl i helpu pobl ledled Cymru gyda'r argyfwng costau byw. Byddwch yn ymwybodol mai ein grant datblygu disgyblion yw'r mwyaf hael ar draws y Deyrnas Unedig. O flwyddyn i flwyddyn, rydym wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion ac mae'r cyllid ar gyfer eleni bellach dros £130 miliwn. Yn gydnabyddiaeth o'r pwysau sy'n wynebu teuluoedd, cyhoeddodd Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, yn gynharach eleni, daliad untro ychwanegol o £100 i bob plentyn neu berson ifanc sy'n gymwys i gael y grant datblygu disgyblion. Ac eto, mae hynny'n mynd â'r arian ar gyfer y cynllun hwnnw dros £23 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bwriad y Gweinidog yw diweddaru ein canllawiau gwisgoedd ysgol statudol a lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig—mae'n ddrwg gennyf, mae'r ymgynghoriad hwnnw ar waith ar hyn o bryd.