Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Mae'n amlwg—gan ei fod yn fy etholaeth i—fy mod yn ymwybodol iawn o'r adran arloesedd addysg iechyd newydd ym mhrifysgol Glyndŵr ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Mae gennym ni ddarpariaeth debyg lawr yn Abertawe, felly mae'n wych ei chael yn y gogledd hefyd, oherwydd rydym yn gwybod, on'd ydym ni, o ran lle mae pobl yn hyfforddi, maen nhw'n aml yn aros yn yr ardal honno. Felly, bydd hynny'n amlwg yn helpu gyda chadw a dod â staff newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd, byddwn i'n credu. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni'n awyddus iawn i hyrwyddo nyrsio fel gyrfa; mae'n yrfa werth chweil, a byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w hyrwyddo.