Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:48, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ymdrin â'r cwestiwn penodol: a oes gennych arian yng nghronfa wrth gefn Cymru, ac a oes gennych chi wariant heb ei ddyrannu ar gael i chi.

Nawr, mae Keir Starmer yn dweud ei fod eisiau i'r GIG ddibynnu llai ar feddygon a nyrsys tramor a'i fod eisiau torri dibyniaeth Prydain ar fewnfudwyr. Ydy'r math yma o rethreg yn eich poeni chi? Pan awgrymodd y farwnes Dorïaidd, Dido Harding, y llynedd, y dylid dod â dibyniaeth y GIG ar staff tramor i ben, dywedodd Eluned Morgan hyn: 

'Dylem ni fod yn dathlu'r bobl yma sydd wedi ein helpu ni drwy'r pandemig, yn hytrach nag ymddangos ein bod ni eisiau cau'r drws ar y bobl yma sydd wir wedi camu i'r adwy yn ystod ein cyfnod ni o angen.'

Felly, ydy Llywodraeth Cymru dim ond yn beirniadu gwleidyddiaeth chwiban ci ymfflamychol pan fo Ceidwadwr ar fai? Ac onid y ddibyniaeth go iawn yn y GIG yw'r gwariant ar staff asiantaeth, a gododd i £133 miliwn y llynedd, i nyrsys yn unig, sy'n breifateiddio drwy'r drws cefn i bob pwrpas? Byddai gosod uchafswm ar wariant ar staff asiantaeth y gaeaf hwn yn rhoi ffordd arall i chi roi'r codiad cyflog teilwng i staff y GIG, o ble bynnag y maen nhw'n dod, y maen nhw'n ei haeddu.