1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2022.
8. Sut mae blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru wedi helpu gwasanaethau cyhoeddus i adfer o effeithiau'r pandemig? OQ58746
Diolch. Fel sydd wedi'i nodi yn ein cyllideb 2022-23, ein blaenoriaeth ni oedd defnyddio pob ysgogiad posibl i gyflawni ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, darparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad pandemig ar ôl COVID-19, a symud ymlaen tuag at Gymru gryfach, decach a gwyrddach.
Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae effeithiau dinistriol y pandemig yn parhau, yn anffodus, i gael eu teimlo gan wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Byddai'n rhesymol tybio, felly, y bydd eich Llywodraeth yn cymryd pob cyfle i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i adfer. Ond yn ddiweddar bu cyfarfod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 bod yna danwariant o £526 miliwn wedi bod. O ganlyniad, bu'n rhaid dychwelyd £155 miliwn o gyllid a gafodd ei ddyrannu i Gymru i'r Trysorlys. Bob wythnos yn y Senedd, Gweinidog, rydym ni'n clywed am y Llywodraeth hon yn beio'u methiannau ar ddiffyg cyllid gan San Steffan, ac eto, mae'n amlwg nad ydych chi'n gwario'r arian sydd eisoes wedi'i roi i chi. Felly, a ydych chi'n cytuno, Gweinidog, bod hyn yn warthus eich bod chi wedi dychwelyd £155 miliwn i'r Trysorlys, pan fo ein hysbytai, ysgolion a chynghorau lleol yng Nghymru o dan bwysau ariannol difrifol? Diolch.
Nid oes gennyf i fanylion y £155 miliwn yna, felly nid wyf yn gwybod a fyddai modd ei wario ar ysgolion neu iechyd. Mae yna wahanol gyllidebau, mae yna wahanol reolau a rheoliadau. Yn anffodus nid oes gennyf i'r manylion i gytuno â'ch sylwadau.
Diolch i'r Trefnydd am y sesiwn yna.