Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn llawer gwell i bawb sy'n gysylltiedig â hyn fabwysiadu agwedd ataliol at lifogydd, yn hytrach na gorfod ymateb bob amser. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i'r mesurau ataliol hynny, gyda nifer fawr o gynlluniau ledled y wlad, nid dim ond yn y de-orllewin. Fe wnes i sôn yn fy ateb wrth Sioned Williams mai dim ond rheoli risg y gall cynlluniau llifogydd, a'r hyn a wnaiff ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni yw amlinellu sut y byddwn yn rheoli'r risg hwnnw dros y degawd nesaf. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn sicr yn hapus iawn i ystyried y pryderon yr ydych chi'n eu codi gyda CNC a'r awdurdod lleol.