1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2022.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cymunedau sy'n profi llifogydd yng Ngorllewin De Cymru? OQ58741
Diolch. Mae ein hamcanion cyllido i leihau'r risg o lifogydd i gymunedau wedi'u nodi yn ein strategaeth llifogydd genedlaethol a'r rhaglen lywodraethu. Rydym yn darparu £36.4 miliwn o arian grant parhaus ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd o'r gwaith dylunio i waith adeiladu yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.
Diolch. Dair wythnos yn ôl, gwnaeth glaw trwm orlwytho draeniau a chwlfertau mewn nifer o gymunedau yn fy rhanbarth i a gwelais effaith hyn yn uniongyrchol, yng Nghwm Tawe a'r diwrnod canlynol yn ardal Melincryddan, Castell-nedd, a dyma'r trydydd tro yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r Melin ddioddef llifogydd difrifol. Roedd yn dorcalonnus siarad â thrigolion a fynegodd eu tristwch, eu rhwystredigaeth a'u pryder wrth weld eu cartrefi yn dioddef llifogydd unwaith eto a llawer o eiddo wedi'u eu difetha.
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd newydd gwerth £100,000 yn St Catherines Close yn y Melin, dan y strategaeth genedlaethol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Gan iddo fethu gwta chwe mis ar ôl cwblhau'r cwlfert newydd, pa asesiad a gynhaliwyd o ran effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun hwn? A hefyd, a fydd cymorth brys yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth i helpu'r cyngor gyda chost y gwaith glanhau ac i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'r gwaith atal llifogydd, a hefyd i ariannu taliadau cymorth dewisol i aelwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw? Ac i fusnesau lleol sydd wedi eu difetha unwaith eto, sydd heb fynediad at Flood Re, a fydd unrhyw gymorth iddyn nhw, i'r rhai na allan nhw nawr gael yswiriant, a thaliadau grant lliniaru llifogydd busnes sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, fel oedd yn digwydd ar ôl stormydd Bellla a Christoph?
Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch yr asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag effeithiolrwydd buddsoddi yn y cynllun, darparwyd cyllid ar gyfer sgrin brigau newydd i'r awdurdod lleol drwy ein cronfa cynlluniau ar raddfa fechan i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Darparon nhw gynigion manwl ar gyfer ailgynllunio'r sgrin brigau bresennol honno'n sylweddol, ac roedd swyddogion yn fodlon â gwaith gwella arfaethedig yr awdurdod rheoli risg, a hynny oedd ceisio gwneud y grid yn fwy effeithlon ac felly, yn fwy diogel i'w weithredu. Yn anffodus, yn yr achos hwn—ac rwy'n clywed yn iawn yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am eich etholwyr; mae'n brofiad ofnadwy iddyn nhw, llifogydd yn eich cartref—roedd y cwlfert yn dal i gael ei orlwytho oherwydd maint y storm. Yn y pen draw, ni all cynlluniau llifogydd ond rheoli risg, ac fe all digwyddiadau eithafol achosi llifogydd o hyd. Rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol yn y broses o baratoi achos busnes amlinellol i fynd i'r afael â'r risg llifogydd ehangach sy'n gysylltiedig â nant Cryddan, ac mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r cynigion hynny lywio ymchwiliadau adroddiad adran 19 yr awdurdod lleol i'r digwyddiad yr ydych wedi cyfeirio ato.
O ran cefnogaeth frys, pan fo'n briodol, mae awdurdodau lleol yn gallu gwneud ceisiadau am gymorth ariannol o dan ein cynllun cymorth ariannol brys. Byddai hynny'n cynorthwyo gyda'r baich ariannol o ddarparu rhyddhad a gwneud gwaith ar unwaith i reoli effaith sefyllfa frys.
O ran taliadau grant lliniaru llifogydd busnesau, mae Busnes Cymru'n darparu un pwynt cyswllt i fusnesau, felly gallent gael golwg ar hwnnw i weld a oes unrhyw beth ar gael ymhellach.
Trefnydd, yn eich ateb cychwynnol, sonioch chi am bwysigrwydd lleihau'r perygl o lifogydd yn y lle cyntaf, felly roeddwn i eisiau tynnu eich sylw at yr amddiffynfeydd llifogydd ar draeth Newton ym Mhorthcawl. Mae trigolion sy'n byw ar Ffordd y Traeth yno wedi cysylltu â mi, yn poeni am gynllun rheoli traethlin Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Y polisi tymor byr yw cynnal y draethlin, drwy gynnal yr amddiffynfeydd presennol, nes eu bod yn cyrraedd diwedd eu hoes effeithiol. O ystyried y polisi canolig a thymor hir, ni fyddai unrhyw welliannau amddiffyn yn cael eu gwneud, felly bydd risg uwch o lifogydd i'r eiddo preswyl ac asedau ar y glannau.'
Mewn geiriau eraill, y polisi yma yw peidio â gwella'r amddiffynfeydd môr o gwbl, ac mae adroddiad CNC ei hun yn cyfaddef y bydd hynny'n cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd yn yr ardal yn sylweddol, y gallwch ddychmygu ei fod yn achosi llawer iawn o bryder i bobl leol gyda'u cartrefi wedi'u lleoli yno. Siawns nad yw'n well ein bod yn cymryd camau ataliol i amddiffyn rhag llifogydd, yn hytrach nag ymateb i sefyllfa pan fydd yn mynd yn rhy hwyr. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru a fyddwch chi'n cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyngor lleol i lunio cynllun nad yw'n dibynnu ar gartrefi pobl yn dioddef llifogydd?
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn llawer gwell i bawb sy'n gysylltiedig â hyn fabwysiadu agwedd ataliol at lifogydd, yn hytrach na gorfod ymateb bob amser. Yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi cyllid sylweddol i'r mesurau ataliol hynny, gyda nifer fawr o gynlluniau ledled y wlad, nid dim ond yn y de-orllewin. Fe wnes i sôn yn fy ateb wrth Sioned Williams mai dim ond rheoli risg y gall cynlluniau llifogydd, a'r hyn a wnaiff ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni yw amlinellu sut y byddwn yn rheoli'r risg hwnnw dros y degawd nesaf. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn sicr yn hapus iawn i ystyried y pryderon yr ydych chi'n eu codi gyda CNC a'r awdurdod lleol.