3. Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:42, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac rwy'n dymuno cynnig y cynnig hwn. Mae hwn yn offeryn statudol cyfansawdd i gynyddu'r ffi statudol rhagnodedig y ceir ei chodi gan awdurdod proffesiynol ar gyfer penodi cymrodeddwr annibynnol i ddatrys anghydfodau neu i wneud cofnodion penodol o ran tenantiaethau amaethyddol wedi'u llywodraethu gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Nid yw'r ffi bresennol, sef £115, wedi'i diweddaru ers 1996, ac nid yw hi nawr yn talu'r gost o ddarparu'r gwasanaeth apwyntiadau. Bydd y rheoliadau'n cynyddu'r ffi i £195, yn unol â chwyddiant, a gofynnir i'r Senedd gytuno i'r rheoliadau.