Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Diolch. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad yr hydref y bu hen ddisgwyl amdano ac fe gyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon yn nodi ein bod ni'n wynebu'r cwymp mwyaf mewn safonau byw ers iddyn nhw gael eu cofnodi. Datganiad digalon iawn oedd hwn gan y Canghellor wedi 12 mlynedd o Lywodraethau Ceidwadol, a gyhoeddwyd yn sgil y gyllideb 'fechan' drychinebus, ochr yn ochr â rhagolygon economaidd llymach eto gan yr OBR.
Mae estyniadau aml-flwyddyn i rewi trothwyon treth incwm ac yswiriant cenedlaethol yn golygu y bydd gofyn i ni gyd dalu rhagor o drethi, gan gynyddu baich treth i'w gyfradd uchaf mewn 70 mlynedd, mewn cyfnod pan fo chwyddiant ar ei gyfradd fwyaf mewn mwy na phedwar degawd, ac rydym ni ar fin yr hyn y mae'r OBR a Banc Lloegr yn credu fydd yn ddirwasgiad hirfaith. Mae disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros grebachu gan 2 y cant, a fydd yn arwain at gostau gwirioneddol a sylweddol i bobl ledled y wlad, ac mae disgwyl i gyfradd diweithdra gynyddu yn sylweddol. Fe allai hynny olygu bod 20,000 i 25,000 yn rhagor o bobl yn ddi-waith yng Nghymru yn unig. Efallai mai'r rhan fwyaf ysgytwol o'r cyfan yw'r cwymp gwirioneddol o ran incwm gwario aelwydydd. Dros y ddwy flynedd nesaf, disgwylir i hyn ostwng gan 7 y cant yr unigolyn. Hwnnw fyddai'r cwymp mwyaf erioed.