Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Yr wythnos diwethaf, roedd y Canghellor yn awyddus i feio digwyddiadau byd-eang am ragolygon ariannol enbyd y DU, gan gynnwys y pandemig ac ymosodiad anghyfreithlon Putin ar Wcráin. Er nad oes modd gwadu bod y rhain wedi cael effaith ddifrifol ar ein heconomi ni, mae'r sefyllfa wedi'i gwaethygu oherwydd camreoli'r economi a chyllid cyhoeddus parhaus gan Lywodraeth y DU. Mae'r DU yn mynd i mewn i ddirwasgiad mewn sefyllfa waeth nag unrhyw un o economïau'r G7, a dyma'r unig wlad G7 i beidio ag adennill lefelau cyn-COVID o Gynnyrch Domestig Gros a chyflogaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau cyfres o siociau niweidiol a achoswyd ganddi hi ei hunan ar ein heconomi a'n gwlad yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, o gyni i Brexit, a'r gyllideb fach drychinebus, a greodd dwll enfawr yn ein harian cyhoeddus. Mae'r Canghellor wedi ceisio llenwi'r twll hwnnw drwy gymysgedd o godiadau treth a thoriadau gwariant caled. Bydd mwyafrif llethol y toriadau gwariant hynny'n dod ar ôl 2024-25, gan ohirio penderfyniadau ariannol anodd tan ar ôl etholiad cyffredinol nesaf y DU, a rhoi poen i ni heddiw a phoen i ni yfory.
Gwnaeth y degawd cyntaf o gyni economi'r DU £100 biliwn yn llai; gan ehangu'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd; gan wneud pobl ifanc yn waeth eu byd nag oedd eu rhieni ar eu hoedran nhw; llai yn perchen ar gartref; a chreu'r argyfwng presennol yn y sector rhentu preifat. A nawr, mae Llywodraeth y DU yn barod i ailadrodd yr arbrawf diffygiol a methedig hwn i drwsio'r camgymeriadau a wnaeth. Ond nid oes angen cyni 2.0 arnom ni; yr hyn sydd ei angen arnom ni yw buddsoddi mewn addysg a sgiliau, cefnogi busnes a thrafnidiaeth, i helpu i hybu twf economaidd a denu buddsoddi.
Cyn datganiad yr hydref, roeddem ni'n wynebu'r rhagolygon ariannol gwaethaf ers datganoli. Mae hyn yn parhau i fod yn wir. Mae ein setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd yn dal i fod yn werth llai mewn termau real na phan gafodd ei gyhoeddi fis Hydref diwethaf. Byddwn ni'n derbyn £1.2 biliwn ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a gafodd eu gwneud yn Lloegr, ond ni fydd ein cyllideb gyffredinol yn 2024-25 yn uwch mewn termau real nag yn y flwyddyn bresennol. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1 y cant yn is. Daw bron i hanner y cynnydd mewn cyllid y flwyddyn nesaf o fesurau ardrethi annomestig yn Lloegr, nid o wariant ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus. Nid yw'r arian ychwanegol yn dod yn agos at yr hyn sydd ei angen arnom ni i fodloni'r pwysau ar bob rhan o'n cyllideb, gan gynnwys amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag yr heriau aruthrol sydd wedi'u hachosi gan y chwyddiant uchaf erioed, pwysau cyflog a chostau ynni. Gallai ein setliad fod hyd at £3 biliwn yn is mewn termau real na'r disgwyl, a hyd at £1 biliwn yn is yn 2023-24 yn unig.
Yn wyneb y pwysau hyn, rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â'r hyn y gallwn ni ei fforddio. Mae gennym ni bwysau a blaenoriaethau niferus y mae angen eu cynnwys neu'u hail-flaenoriaethu. Dim ond hyn a hyn o'r ffordd y bydd cyllid a ddaeth o ganlyniad i ddatganiad yr hydref yn mynd i ddiogelu cyflwyno'r rhaglen lywodraethu, lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, ymdrin â gofynion cyflogau'r sector cyhoeddus a pharhau i gefnogi ein hymateb dyngarol i'r sefyllfa yn Wcráin. Mae dal angen gwneud penderfyniadau a dewisiadau heriol, ochr yn ochr ag ystyried yn barhaus i ba raddau yr ydym ni'n gallu lliniaru colli cyllid yr UE.
Mae'r rhagolygon cyfalaf wedi dirywio. Er y byddwn ni'n ystyried yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni, ni fydd gennym ni fawr o ddewis ond i leihau ein cynlluniau cyfalaf a meddwl yn fwy creadigol am ariannu blaenoriaethau cyfalaf mawr wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar ein strategaeth fuddsoddi seilwaith newydd yng Nghymru. Fel rhan o'n paratoadau parhaus ar gyfer y gyllideb, rydym ni'n wynebu penderfyniadau anhygoel o anodd. Ac er nad oes dewisiadau hawdd, rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o fewn y cyllid sydd gennym ni ar gael. Er mwyn gallu ymateb i'r ansicrwydd cyllidol, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i fod yn hyblyg ac ystwyth wrth wneud penderfyniadau ynghylch ein cyllidebau yn y dyfodol. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr.
Ni wnaeth y Canghellor ddyrannu unrhyw gyllid ychwanegol o ran y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd unrhyw newidiadau i'n setliad y flwyddyn ariannol hon yn destun proses amcangyfrifon atodol y DU yn y flwyddyn newydd. Mae'r Canghellor hefyd wedi dweud y bydd cyllideb wanwyn, a allai effeithio ar gynlluniau ar gyfer ein cyllideb derfynol. Felly, er gwaethaf y cyd-destun hwn, rydym ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i weithio i flaenoriaethu ein cyllidebau, i warchod y rhai mwyaf agored i niwed a chynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach wrth i ni baratoi ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24.