6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 22 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:46, 22 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaeth datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf gan Ganghellor y DU, rwy'n credu, gadarnhau, oni wnaeth, mewn gwirionedd, beth yr ydym ni wedi'i ofni ers peth amser. Mewn ymateb i'r llanast llwyr maen nhw wedi'i wneud o'r economi, mae'r Torïaid wedi penderfynu rhyddhau ton newydd o gyni, gyda chanlyniadau dinistriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Ar ôl degawd o doriadau, o danfuddsoddiad ac anghydraddoldeb sydd eisoes wedi gadael ein gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, mae wedi plymio miliynau o gartrefi i dlodi; mae wedi achosi'r wasgfa hiraf ar safonau byw ers y rhyfeloedd Napoleonaidd. Unwaith eto, rydym ni'n wynebu criw breintiedig o aml-filiynyddion yn rhoi baich eu balchder gormodol ar ysgwyddau pobl weithgar Cymru. Ac er bod y Torïaid, mae'n siŵr—ac maen nhw eisoes wedi'i wneud y prynhawn yma—yn defnyddio llawer o aer poeth yn honni eu bod wedi gwneud penderfyniadau anodd ac angenrheidiol, gallaf ddweud wrthych na fyddwn ni'n llyncu'r cleber Torïaidd hwnnw.

Gadewch i ni fod yn hollol glir—a gallwch chi ysgwyd eich pen cymaint ag y mynnwch chi—mae cyni bob amser wedi bod yn ddewis gwleidyddol pwrpasol. Roedd yn ddewis gwleidyddol pan ddywedodd Cameron ac Osborne wrthym ni—ydych chi'n cofio—hynny, 'Rydym ni i gyd yn yr un cwch'. Ydych chi'n cofio hynny? Pawb yn yr un cwch, ie, tra bo nhw'n hel mêl i gwch eu cefnogwyr corfforaethol ar draul pobl gyffredin. Ac mae'n ddewis gwleidyddol nawr, wrth i'r Llywodraeth Dorïaidd hon sydd allan o reolaeth ac heb gysylltiad â realiti unwaith eto yn rhoi buddiannau eu plaid o flaen buddiannau pobl. A gallaf ddweud hyn wrthych chi: rydym ni'n gwybod y bydd canlyniadau eich dewis yn cael effaith ar fywoliaeth ac ar fywydau yma yng Nghymru. Felly, rydym ni'n gwybod y bydd gan ddatganiad yr hydref oblygiadau dwys o ran gwariant cyhoeddus yma yng Nghymru, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gyllideb sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru. 

Ond o ran eleni, yn gyntaf oll, Gweinidog, rydych chi'n ein hatgoffa ni nad oes arian ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi, felly, yng ngoleuni hynny, nid yn unig ar gyfer y broses gyllideb atodol arferol a chyllideb atodol, ond ar gyfer ailgyfrifiad ehangach, mwy sylfaenol o gyllideb Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon—adleoli cyllidebau, defnyddio unrhyw gronfeydd heb eu dyrannu ac unrhyw danwario a fydd yn y gyllideb? Allwch chi ddweud ychydig wrthym ni am eich bwriadau chi ar gyfer y flwyddyn ariannol benodol hon? 

Nawr, yn anffodus, wrth gwrs,  bydd cyfyngiadau'r setliad datganoledig presennol—pa waeth mor ddoeth a sefydledig ein cynlluniau yma yn y Senedd, byddan nhw bob amser yn amodol ar fympwyon San Steffan tra bod y status quo cyfansoddiadol yn parhau. Ond mae yna rai mesurau datganoledig, waeth pa mor gyfyngedig, y mae eu defnyddio yma i inswleiddio'r Cymry o leiaf rhag rhai o ormodedd gwaethaf y storm economaidd hon. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni a fydd Llywodraeth Cymru yn archwilio o ddifrif nawr y dewis o ddefnyddio rhai o'ch pwerau dros gyfraddau treth incwm Cymru i gynhyrchu rhywfaint o'r cyllid sydd ei angen arnom ni i gau'r bwlch, y bwlch enfawr, sydd wedi agor o'n blaenau? Ac ar gyllid cyfalaf yn enwedig, meddech chi, yn eich datganiad, y byddwch chi, ac rwy'n dyfynnu eto, yn

'ystyried yr holl ysgogiadau sydd ar gael i ni'.

Fyddech chi'n gallu ehangu ychydig ar hynny? Oherwydd, yn amlwg, mae benthyca yn un maes allweddol, ond rydych chi wedi pwyso yn drymach yn y cyfnod adolygu gwariant hwn ar fenthyg nag efallai o'r blaen, felly hoffwn i ddeall lle yr ydych chi'n meddwl y gallwch chi fynd o ran cyllid cyfalaf.

Nawr, mae'r setliad datganoledig presennol, fel y dywedais i, yn rhwym ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i'r digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y DU hyn a phenderfyniadau cyllidol. Rydych chi'n dweud wrthym ni y bydd y Llywodraeth yn parhau i fod yn hyblyg ac ystwyth, ond a ydych chi'n derbyn bod hynny'n eithaf anodd pan na allwch chi ond potsian, i bob pwrpas, gyda phenderfyniadau macroeconomaidd a gaiff eu gosod ar Gymru gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan na wnaethom ni erioed bleidleisio drosti yma yng Nghymru wrth gwrs? Ac os ydych chi, yna onid yw'n bryd mynnu bod yr ysgogiadau macroeconomaidd hyn yn cael eu trosglwyddo i ni yma yng Nghymru fel y gallwn ni ddiogelu ein pobl ni'n well a gwneud yn siŵr nad yw Llywodraeth y DU yn dal Cymru yn ôl?