Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Mae dull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod yn canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, gan gymryd agwedd gyfannol ac adsefydlol i ddargyfeirio menywod o droseddu, a chefnogi menywod i gael mynediad at wasanaethau yn y gymuned trwy gymorth un-i-un. Mae'r cymorth a'r arweiniad ymarferol a ddarperir yn hanfodol, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng costau byw. Pwysleisiodd gwerthusiad diweddar pa mor effeithiol y mae'r prosiect hwn yn gwella bywydau menywod sy'n agored i niwed yng Nghymru na fyddai, o bosibl, fel arall, wedi ymwneud bryd hynny â'r system gyfiawnder. O dan y glasbrint, mae gwasanaethau dargyfeirio bellach ar waith ar gyfer menywod ym mhob un o bedair ardal yr heddlu yng Nghymru.
Datblygiad arall yw pecyn hyfforddi newydd ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda menywod yn y system gyfiawnder sy'n rhoi sylw i rywedd a thrawma. Diben yr hyfforddiant hwn yw cynyddu sgiliau staff gan roi iddynt yr arbenigedd a'r hyder i ystyried rhywedd. Caiff ei gyflwyno ar hyn o bryd i'r holl asiantaethau sy'n gweithio yn y maes cyfiawnder troseddol.
Mae'r gwasanaeth Ymweld â Mam, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, yn helpu mamau Cymru i gynnal perthynas gadarnhaol â'u plant drwy gydol eu dedfryd o garchar, gan gynnig cymorth arbenigol i gadw a chryfhau cysylltiadau teuluol hanfodol. Rhwng Mehefin 2021 ac Awst 2022, mae'r rhaglen wedi cefnogi 68 teulu.
Mae ymweliadau blaenorol yr wyf wedi bod arnynt â charchar Eastwood Park a charchar Styal wedi fy ngalluogi i weld â'm llygaid fy hun y gwaith gwych a wneir gan lasbrint cyfiawnder menywod, gan gynnwys Canolfan Menywod Ymddiriedolaeth Nelson yng ngharchar Eastwood Park. Bydd hyn yn darparu un gwasanaeth cynhwysfawr i bob menyw ar y safle hyd at 12 mis cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r gymuned, gan gysylltu ystod o wasanaethau gyda'i gilydd.
Gallaf hefyd gadarnhau bod trafodaethau'n parhau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhanddeiliaid allweddol eraill ar y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod. Bydd y ganolfan yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr, gan roi sylw i drawma, i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn ddewis arall yn lle dedfrydau trafferthus a diangen.
Dirprwy Lywydd, rydym yn gwybod bod 57 y cant o fenywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn rai sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n treulio dedfrydau yn y gymuned hefyd wedi profi trais rhywiol neu gam-drin domestig wrth law cymar agos. Mae cysylltiadau rhwng tlodi a thrais hefyd, gyda thystiolaeth gref yn amlygu bod anghydraddoldeb incwm sylweddol yn rhagfynegydd cryf o droseddau treisgar. Mae'r ganolfan breswyl i fenywod yn beilot ar gyfer y Deyrnas Unedig i ddangos bod modd cael dewis arall yn lle carcharu.
Rwyf nawr yn troi at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n ystyried cyfiawnder o safbwynt trawma ac sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. O dan y glasbrint, mae rheolaeth achos well bellach ar gael i bob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru ar gyfer plant mewn cyswllt gwirfoddol a statudol. Mae'r dull seicolegol hwn yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi, ac mae'n nodi sut i'w helpu i adeiladu'r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau di-drosedd. Yn ogystal, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach yn darparu cyllid i gefnogi'r gwasanaeth triniaeth ac ymgynghori fforensig y glasoed. Mae hyn wedi mabwysiadu model seicolegol, gyda phwyslais ar drawma, ar gyfer timau troseddau ieuenctid ledled Cymru, gan wella'r cymorth sy'n cael ei roi i bobl ifanc sy'n agored i niwed.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar fframwaith cyfiawnder atal troseddu ymysg ieuenctid i gefnogi plant sydd mewn perygl o fynd i'r system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn adeiladu ar fuddsoddiad sy'n bodoli eisoes, megis hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol, a ariennir gan grant plant a chymunedau Llywodraeth Cymru, ac mae'r grant yn ariannu prosiectau ar ddargyfeirio, atal a chefnogi pobl ifanc, er mwyn hwyluso newid yn eu hymddygiad.
Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom ni amlinellu ein gweledigaeth i blant gael llety mewn cartrefi bach sy'n agos at eu cymunedau, a chael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth gofleidiol arbenigol sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd bwrdd rhaglenni cartrefi bach, dan arweiniad Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adran Addysg Llywodraeth y DU, yn sbarduno'r gwaith uchelgeisiol hwn.
Dim ond cipolwg byr yw hwn o'n cyflawniadau, sydd wedi'u nodi'n llawn yn y cynlluniau gweithredu. Ar 26 Hydref fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi gwerthusiad, sy'n rhoi ymdeimlad grymus o'r effaith y mae'r glasbrintiau'n ei wneud yn ymarferol. Ddydd Iau, byddaf yn siarad yng nghynhadledd glasbrint cyfiawnder menywod, gan roi cyfle pellach i rannu canlyniadau'r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan fenywod gan gynnwys Danielle John, sydd wedi cael cefnogaeth sy'n newid bywydau gan y glasbrintiau ac sydd wedi cynnig arbenigedd amhrisiadwy i'n gwaith, gan gynnwys trwy rannu ei phrofiad byw ei hun.
Mae'r glasbrintiau'n cael eu cynnal fel model enghreifftiol ar gyfer darparu polisïau allweddol, trawsbynciol mewn partneriaeth, sydd bellach yn cael ei efelychu mewn mannau eraill. Mae ein strategaeth genedlaethol, VAWDASV, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn cael ei darparu trwy'r un dull glasbrint, gan roi pwyslais sylweddol ar brofiad a dylanwad goroeswyr.
Rwy'n croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y pwyllgor, a fydd, rwy'n gwybod, yn adlewyrchu'r heriau y mae menywod yn y system gyfiawnder yn dal i'w hwynebu. Mae menywod yn dal i gael eu dedfrydu i ddedfrydau diangen a thrafferthus o dan glo, sy'n gallu cael effaith ddofn ar eu plant a chreu problemau sylweddol mewn meysydd fel iechyd a thai. Rwy'n falch bod y glasbrintiau wedi helpu i liniaru rhai o'r materion hyn, ond dim ond newid radical i'r ffordd y mae menywod yn cael eu trin ar draws y system fydd wir yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr heriau hyn. Dyna pam rydym yn parhau i weithio ar y ganolfan breswyl i fenywod, ac ar hysbysu dedfrydwyr am effaith carcharu.
Mae'r gefnogaeth a roddir i fenywod, plant a phobl ifanc drwy'r glasbrint bellach yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac ar adegau fel hyn mae'n hanfodol sicrhau bod menywod a phobl ifanc yn cael cymorth i gael mynediad i'r gwasanaethau maen nhw eu hangen.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll yn fyr y camau nesaf pwysig ar ein gweledigaeth am gyfiawnder, a gafodd ei nodi ym mis Mai yn ein cyhoeddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae ein gweledigaeth yn canolbwyntio ar atal, gan gydnabod mai dim ond wrth ddarparu cyfiawnder cymdeithasol y gallwn ni fynd i'r afael yn wirioneddol â'r rhesymau sylfaenol dros bwysau ar y system gyfiawnder. Mae arnom ni eisiau siarad am y weledigaeth gyffredin a gredwn ni sy'n bodoli ar gyfer agwedd Gymreig unigryw tuag at gyfiawnder, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau wrth i'r trafodaethau hyn esblygu.
Hoffwn hefyd gydnabod cyhoeddiad diweddar 'The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge' gan awduron yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Robert Jones a Richard Wyn Jones. Bydd y llyfr hwn yn rhoi cyfraniad defnyddiol wrth i ni geisio bwrw ymlaen â'r weledigaeth gyffredin hon.
Wrth i gyfiawnder barhau ar hyn o bryd yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl, byddwn yn parhau gyda'n dull cydweithredol a chynhyrchiol o leihau trosedd ac aildroseddu, er mwyn creu Cymru well i bawb o dan y system bresennol, ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu'r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru. Diolch yn fawr.