Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Llywydd, mi wnaf fy ngorau i ddatod y cyfraniad yna gan Joel James. Yn bennaf oll, nid wyf yn awgrymu unrhyw beth; adroddiad gan ein prif gynghorydd tân ac achub oedd hwn, ac mae gennyf i ddyletswydd wedyn i ymateb iddo pan fo'n codi pethau ynghylch hyfforddiant a diogelwch. Ac nid ydym yn awgrymu unrhyw beth am ddiffoddwyr tân swyddfa unigol na gorsafoedd penodol, dim ond, mewn gwirionedd, bod angen y dystiolaeth a'r wybodaeth honno arnom ac i weithio ar y cyd â'r gwasanaethau tân ac achub a chynrychiolwyr y gweithlu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny yn y tymor byr.
Ac o ran y tymor hirach, mewn gwirionedd, y ffordd orau y gallwn ni edrych ar rai o'r heriau tymor hirach hynny—ac fe godais, yn y datganiad, bryderon ynghylch hynny—rwy'n gwybod ei fod yn effeithio ar Aelodau yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru—mae llawer ohonom yn ddibynnol iawn ar yr RDS, y gwasanaeth dyletswydd yn ôl galw, ac rydym wedi gweld, dros y blynyddoedd, y newid, ac mae ffordd o fyw pobl wedi newid, mae'r ddibyniaeth ar hynny wedi newid hefyd, ac rwy'n credu bod gwaith mawr i'w wneud ar hynny. A'r rheswm dros gael y fforwm hwn yw nid yn unig i ddod â phobl at ei gilydd dim ond er mwyn hynny, ond i sylweddoli mewn gwirionedd y gallwn gronni'r arbenigedd hwnnw, y profiad hwnnw, a dod â hynny at ei gilydd a'i gael yn iawn hefyd.
Ac mae'r Aelod yn drysu nifer o faterion yn ei gyfraniad—rwy'n oedi cyn dweud o bosibl yn fwriadol, ond mae hyn yn hollol ar wahân i unrhyw faterion yn ymwneud â gweithredu diwydiannol neu gyflog ac amodau. Mae hwn yn fater o hyfforddiant a diogelwch diffoddwyr tân, a dyna pam yr oeddwn i'n credu mai fy nyletswydd i oedd dod â hyn ger bron Aelodau heddiw, i godi hynny, ond hefyd i ddweud, mewn gwirionedd—. Mae'n fraint anhygoel cael bod yn y sefyllfa hon, a chael mynd allan i weld o lygad y ffynnon rai o'r gweithgareddau y mae ein diffoddwyr tân yn eu cyflawni yn y gwasanaethau ledled Cymru. Pwynt hyn, mewn gwirionedd, yw ein bod eisiau gweithio ar y cyd, rydym eisiau gweithio gyda'n gilydd, ond mae angen i'r gwasanaethau tân ac achub ymateb yn llawn i'r adroddiad diweddaraf, fel y gallwn mewn gwirionedd gael darlun cliriach o'r hyn yw'r heriau mewn gwahanol leoedd a sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â nhw mewn ffordd sydd nid yn unig yn gweithio i'n diffoddwyr tân ac achub anhygoel, ond hefyd i gymunedau ledled Cymru.