Gwelliannau Cyffyrdd ar yr A483

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:38, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw beth yn well gennyf na theithio o amgylch Cymru yn mynd i weld ffyrdd osgoi gyda fy nghyd-Aelodau o'r Senedd, felly cawn weld a yw'r dyddiadur yn caniatáu hynny. Mae arnaf ofn—. Mae'n gynllun trawsffiniol, fel y dywedwch—5 y cant yn unig ohono sydd yng Nghymru, gyda'r gweddill yn Lloegr. Ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng Highways England a swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch symud i'r cam nesaf, ac rwy'n disgwyl cyngor ynglŷn â hynny cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod pan fyddaf yn gwybod mwy.