1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o welliannau cyffyrdd ar yr A483? OQ58740
Mae’r panel adolygu ffyrdd wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru ar ei ganfyddiadau ar gyfer pob un o’r cynlluniau ffyrdd y mae wedi’u hadolygu, ac mae hyn yn cynnwys gwelliannau i gyffyrdd 3-6 ar yr A483. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar gamau nesaf yr adolygiad ffyrdd erbyn diwedd y mis.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Wrth gwrs, nid oedd cyffordd 1 yn Rhiwabon wedi'i chynnwys yn yr adolygiad ffyrdd, ac felly nid yw gwaith ar wella’r gyffordd honno wedi’i oedi, a hynny am reswm da. Mae’r gyffordd benodol honno’n beryg bywyd, ac mae wedi creu hafn o dagfeydd i fyny’r A483, gyda chynnydd mewn allyriadau carbon o ganlyniad i hynny. Ac wrth gwrs, mae hefyd yn anfon modurwyr ar ffyrdd lleol, gan beryglu bywydau unwaith eto, yn enwedig plant ysgol, a dirywio ansawdd yr aer yn Rhiwabon a'r cyffiniau. Weinidog, a wnewch chi gytuno i ymweld â’r A483 ac i gyfarfod ag arweinwyr cymunedol, ac a wnewch chi amlinellu pa gynnydd a wnaed yn y flwyddyn ddiwethaf ar waith i wella cyffordd 1 ar yr A483?
Diolch. Fel y dywed Ken Skates, yn gwbl briodol, nid oedd cyffordd 1 wedi'i chynnwys yn rhan o’r cynlluniau adolygu ffyrdd yr edrychodd yr adolygiad arnynt, ond cafodd y cyffyrdd eraill eu hystyried. Byddai’r cynigion a gyflwynwyd gan y cyngor lleol ar gyfer cyffordd 1 yn golygu cryn dipyn o ailwampio ar y gyffordd, a fyddai’n ddrud ar garbon ac yn cynyddu capasiti’r ffyrdd. Felly, mae hyn yn berthnasol i'r argymhellion rydym yn eu rhagweld o'r adolygiad ffyrdd ynglŷn â chynlluniau ffyrdd yn y dyfodol. Yr hyn nad ydym am ei wneud, drwy drin cynlluniau ar eu pennau eu hunain—mae achos dros gynlluniau unigol bob amser—yw i effaith gronnol hynny ychwanegu at lefel y traffig. Felly, mae angen inni feddwl yn ofalus iawn. Wedi dweud hynny, lle ceir problemau traffig, mae angen atebion, ac un o’r themâu yn yr adolygiad ffyrdd yw sut y gellir sicrhau bod ffyrdd yn y dyfodol yn cydymffurfio â pholisïau presennol ar newid hinsawdd, trafnidiaeth, a chynllunio. Felly, pan fyddwn yn cynhyrchu’r canlyniadau, yn yr ardaloedd lle rydym yn derbyn argymhellion yr adolygiad i beidio â bwrw ymlaen â ffordd, byddwn yn awyddus i weithio gyda’r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i weld beth arall y gellir ei wneud yn yr achos hwnnw. Fel y dywedaf, ni allaf rag-gyhoeddi’r hyn sydd wedi’i benderfynu—yn bennaf gan nad ydym wedi penderfynu eto—ond byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn yr wythnosau nesaf ar y camau nesaf.
Weinidog, mae un gwelliant sydd ei angen ar yr A483 yn ymwneud â ffordd osgoi Pant-Llanymynech, y soniais amdani nifer o weithiau yn y Siambr hon, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld y ffordd osgoi hon, y mae rhan ohoni yn fy etholaeth, yn mynd yn ei blaen. Felly, oherwydd yr adolygiad ffyrdd ar ochr Cymru, nid wyf yn awyddus i'r cynllun hwn gael ei ohirio ymhellach. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth y DU—. Mae’n gynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gyda Highways England yn arwain ar y cynllun. Tybed a ydych mewn sefyllfa i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y cynllun, Weinidog, os nad heddiw, yn ysgrifenedig, gan fod y cynllun hwn yn arbennig o bwysig, gan nad ffordd osgoi yn unig ydyw; mewn gwirionedd, mae'n welliant diogelwch ar y ffyrdd. Ac os byddwch yn mynd i fyny'r A483 i ymweld â Ken Skates yn ei etholaeth, a gaf fi ofyn ichi stopio ar y ffordd a chyfarfod â mi yn fy etholaeth i drafod y rhan hon o'r ffordd hefyd?
Nid oes unrhyw beth yn well gennyf na theithio o amgylch Cymru yn mynd i weld ffyrdd osgoi gyda fy nghyd-Aelodau o'r Senedd, felly cawn weld a yw'r dyddiadur yn caniatáu hynny. Mae arnaf ofn—. Mae'n gynllun trawsffiniol, fel y dywedwch—5 y cant yn unig ohono sydd yng Nghymru, gyda'r gweddill yn Lloegr. Ac mae trafodaethau ar y gweill rhwng Highways England a swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch symud i'r cam nesaf, ac rwy'n disgwyl cyngor ynglŷn â hynny cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod pan fyddaf yn gwybod mwy.