Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch, Weinidog. Gan gadw at thema COP, ar ôl COP27, ymddengys bod Llywodraethau ledled y byd wedi cefnu ar y gobaith o 1.5—y cyfle i gadw'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang i lefel sydd ond ychydig yn drychinebus, sef 1.5 gradd C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae'r cyfle hwnnw'n prysur ddiflannu. Cefnir arno mewn colofnau papurau newydd ac ym mholisïau llywodraethau. Mae'n llithro i'r gorffennol—dyfodol y gallem fod wedi'i achub i ni ein hunain, ond na lwyddasom i'w sicrhau. Ac er y gellir mesur y gwahaniaeth rhwng 1.5 gradd a 2, 2.5, neu 3 gradd drwy ffigurau difodiant, marwolaethau a sychderau, gellir ei gatalogio hefyd drwy drybestod ac anobaith pobl ifanc. Beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i gadw gobaith i bobl ifanc mewn byd sy’n cefnu ar eu dyfodol? A all eich Llywodraeth ddylanwadu ar gadw 1.5 yn fyw?