Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Mae canol dinas Abertawe wedi gweld buddsoddiad sydd i'w groesawu gan y cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf o ganlyniad i fargen ddinesig bae Abertawe. Mae'r buddsoddiad, sy'n werth tua £1.3 biliwn, wedi helpu i gyflawni pethau fel yr arena ddigidol newydd yn Abertawe a phrosiectau eraill, gyda'r nod o wneud y ddinas yn lle mwy deniadol i weithwyr a chyflogwyr. Ond mae etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r pwyslais anghymesur y teimlant ei fod wedi'i roi ar hyn a chyllid arall, ar ôl cael ei anelu at ganol y ddinas yn benodol. Mae Abertawe yn gartref i gytrefi gwych eraill, fel Treforys, Gorseinon, y Mwmbwls a Phontarddulais, ac mewn rhai o'r ardaloedd hynny, mae'r stryd fawr yn ei chael hi'n anodd iawn, ac nid yw anghenion trafnidiaeth a seilwaith yn cael eu diwallu yn yr un ffordd ag y byddent pe baent ynghanol y ddinas. Felly, gyda hynny mewn cof, sut rydych chi'n gweithio gyda chyngor Abertawe a chynghorau eraill i sicrhau nad canol dinasoedd yn unig sy'n elwa o gyllid ychwanegol ar gyfer gwella ardaloedd trefol?