Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch. Nawr, nid oes angen imi ddweud wrthych fod gennym brinder difrifol o ddarpariaeth dai ar draws gogledd Cymru. Yn ystod 2021-22, cysylltodd 1,126 o bobl â Chyngor Gwynedd oherwydd eu bod yn ddigartref—50 y cant yn fwy nag yn 2018-19. Mae tua 2,000 ar y rhestr ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn Wrecsam, mae nifer yr unigolion sy'n cael eu hystyried yn ddigartref wedi mwy na dyblu i 2,238, rhwng 2019-20 a 2021-22.
Nawr, er bod pobl yn ysu am unedau tai, mae'n ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymaint â 750 o unedau llety ar draws gogledd Cymru nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rwyf wedi ei godi gyda'r Gweinidog iechyd; rwyf wedi ei godi hefyd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi gwybod imi eto yr wythnos diwethaf fod y bwrdd iechyd bellach yn y broses o edrych ar opsiynau caffael i weithio gyda phartner ar gyfer ei breswylfeydd. Nawr, rwy'n gwybod o gysylltu â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y gellid gwneud yr unedau hyn yn stoc dai hyfyw, naill ai i'r rhai yn y sector meddygol, neu'n wir, i rai sydd ond eisiau cartref. Felly, Weinidog, a ydych chi'n cytuno, o ystyried fy mod wedi codi'r pryderon hyn nawr ers—o, dechreuais eu codi y llynedd, pan ddarganfûm fod gennym yr holl stoc tai gwag hyn. Onid ydych chi'n credu ei bod hi'n annerbyniol nad oes rhyw fath o weithio mewn partneriaeth bellach rhwng y Gweinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am dai; y Gweinidog iechyd; a phwy bynnag y mae'n ei gymryd i wneud y stoc wag hon yn gartrefi cynnes, diogel i'r cannoedd lawer o bobl sy'n oedi ar restr aros am dai allu byw ynddynt? Diolch.