Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Weinidog, soniais yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ddoe am fy ymweliad ag Ysgol Gynradd Capcoch yn Abercwmboi yn ddiweddar i weld y gwaith a wnânt ar fynd i'r afael â thlodi plant, gwaith sydd wedi'i ganmol gan Estyn. Mae eu hymyriadau'n cynnwys pethau fel cyfnewidfa ddillad, banc bwyd ac ymagwedd gynhwysol tuag at fynd ar deithiau ysgol, sy'n fwyfwy hanfodol pan fyddwn yn wynebu pwysau cynyddol ar gyllidebau aelwydydd, ac sy'n gallu creu rhwystrau o ran mynediad at addysg. Sut mae Llywodraeth Cymru'n hybu enghreifftiau o arferion gorau o'r fath, fel y gall ysgolion gynorthwyo dysgwyr a'u teuluoedd i liniaru effaith yr argyfwng costau byw?