Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch i Joel James am dynnu sylw at y mater hwn. Roedd yn un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol i ni yn ystod y pandemig COVID am y rheswm pwysig iawn y mae'n ei nodi—i sicrhau nad oedd anallu i fforddio offer neu gysylltedd digidol yn rhwystr i bobl ifanc allu manteisio ar y dysgu cyfunol a oedd yn digwydd ar y pryd. Fe wnaethom fuddsoddi dros £180 miliwn i ddiogelu ein seilwaith technoleg addysg ar gyfer y dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i bob dysgwr ar sail deg. Roedd hynny'n cynnwys 216,000 o ddyfeisiau defnyddiwr terfynol a chysylltedd hefyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd yna enghreifftiau lle mae hynny'n parhau i fod yn rhwystr, ond ein hymrwymiad yw sicrhau bod pot sylweddol o gyllid ar gael i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais oherwydd anallu naill ai i fforddio offer cyfrifiadurol neu gysylltedd band eang.