Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Gwnaf, yn sicr. Maent yn chwarae rhan annatod yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at addysg blynyddoedd cynnar a meithrinfeydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hynny'n wych o ran sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael, ond mae hefyd yn cefnogi rhieni i wneud y dewis hwnnw i'w plant a weithiau'n annog rhieni eu hunain i ddysgu Cymraeg. Rydym yn gwybod mai dyna un o'r ffyrdd gorau posibl o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a gwneud yn siŵr fod pobl ifanc a phlant yn cael cefnogaeth ar gyfer yr opsiynau y maent eisiau eu dewis yn y maes hwn. Felly, rwy'n hapus iawn wir i ymuno â chi a llongyfarch a diolch i'r Mudiad Meithrin am yr holl waith y maent yn ei wneud.