Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Rwy'n falch fod y cwestiwn hwn wedi cael ei godi y prynhawn yma oherwydd hoffwn gymeradwyo gwaith ac ymdrechion cylchoedd meithrin, neu gyn ysgolion Cymraeg eu hiaith, yn sir Ddinbych, gogledd Cymru, ac ar draws y wlad, sy'n chwarae rhan allweddol yn cyflwyno plant dan oed ysgol i'r Gymraeg ac yn darparu rhaglenni addysgol a rhaglenni'n seiliedig ar weithgareddau i annog manteision addysg Gymraeg ar lefel mynediad a chynnig sgiliau i bara oes. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch cylchoedd meithrin lleol a chenedlaethol a'r rolau y maent yn eu chwarae yn y gymdeithas yng Nghymru i fy etholwyr a phobl ledled Cymru? Diolch.