5. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:33, 23 Tachwedd 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cyn i mi ddechrau, hoffwn ddiolch i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd a ddaeth i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Hydref i drafod cynigion y Comisiwn, a hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd yn dilyn ein cais yn fuan ar ôl y cyfarfod hwnnw. Hefyd, hoffwn nodi ar ddechrau fy nghyfraniad fod y gwaith o graffu ar y gyllideb hon wedi bod yn anodd i’r pwyllgor yng nghyd-destun y darlun economaidd newidiol a’r diffyg sicrwydd ynghylch cyllid. Yn benodol, ac fel y mae’r Comisiynydd wedi ei awgrymu, mae’r cyd-destun ariannol hefyd wedi newid yn sylweddol ers i’r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft ar 28 Medi. Rydym o ganlyniad yn gwerthfawrogi’r llythyr gan y Comisiynydd yn gynharach yn yr wythnos, sydd wedi cadarnhau bwriad y Comisiwn i gynnal adolygiad o fewn y flwyddyn ariannol i ddod o hyd i arbedion.