Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Ystyriwyd cyllideb ddrafft y Comisiwn gan y pwyllgor, a chyhoeddodd ei adroddiad ar 21 Hydref. Canfuom fod y Comisiwn wedi datblygu ei gynigion cyllidebol mewn modd darbodus, ac o ganlyniad, rydym yn argymell y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb sydd ger ein bron heddiw.
Fodd bynnag, fel y mae’r comisiynydd wedi’i grybwyll, bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus ledled Cymru yn wynebu penderfyniadau ariannol anos fyth yn dilyn datganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, ac mae’r pwyllgor yn credu na ddylai’r Comisiwn gael ei ynysu rhag ystyriaethau o’r fath. Felly, nodaf ymrwymiad y comisiynydd i ystyried cynnwys y datganiad hwnnw i sicrhau bod ei gynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau i fod yn gymesur.
Rwyf hefyd yn croesawu sicrwydd y comisiynydd ynghylch ymgysylltu â’r pwyllgor ar y materion, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am ei gynlluniau fel y gellir craffu arnynt, eu hystyried a’u hasesu cyn gynted â phosibl.
Rwy’n falch o ddweud bod gan y pwyllgor berthynas adeiladol â’r Comisiwn, yn seiliedig ar ddeialog agored, ac mae hynny'n rhywbeth y dymunwch ei weld yn parhau wrth inni gychwyn ar y trafodaethau hyn. Fodd bynnag, er fy mod yn derbyn bod y realiti sy’n ein hwynebu heddiw yn wahanol i’r cyd-destun a fodolai yn ystod y broses o bennu’r gyllideb dros yr haf, mae’n anffodus mai nawr yn unig y nodwyd y materion hyn, y tu allan i’r gweithdrefnau ariannol arferol sy’n llywodraethu’r gwaith o graffu ar gyllideb y Comisiwn. Nid yw'r Pwyllgor Cyllid yn hoff o weld gweithdrefnau o'r fath yn cael eu tanseilio. Gall hynny wanhau gwaith craffu ac arwain at ganlyniadau gwael. Rydym yn awyddus felly i hyn fod yn rhywbeth sy'n digwydd unwaith yn unig, a bod gwersi'n cael eu dysgu fel nad yw'r sefyllfa'n cael ei hailadrodd yn y blynyddoedd i ddod.
Gan droi nawr at ein hadroddiad, mae cefnogaeth gyffredinol y pwyllgor i gyllideb y Comisiwn hefyd yn dod gyda chafeat o wyth argymhelliad, gyda'r bwriad o sicrhau bod cymaint o dryloywder â phosibl yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chynigion y Comisiwn. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i’n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod chwech o’r rheini wedi’u derbyn a dau wedi’u nodi.
Yn gyntaf, mae’r pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch effaith costau cynyddol cyfleustodau ar gyllideb y Comisiwn a’i allu i ddarparu ei wasanaethau craidd—problem sy’n wynebu holl sefydliadau'r sector cyhoeddus, busnesau a chartrefi ledled Cymru. Er ein bod yn croesawu ymdrechion gan y Comisiwn i archwilio opsiynau sy’n cadw costau cyfleustodau mor isel â phosibl, credwn fod angen rhagor o wybodaeth am effeithiolrwydd mentrau o’r fath i sicrhau bod y Comisiwn ar y trywydd iawn i gyflawni ei nodau cynaliadwyedd.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn droi nawr at ambell fater penodol. Yn amlwg, yr her sefydliadol fwyaf sy’n wynebu’r Comisiwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yw cyflawni cynigion sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd. Rydym hefyd yn deall yr anawsterau a wynebir gan y Comisiwn o ran darparu eglurder ynghylch y cyllid cysylltiedig, ac wrth wahanu ei gostau parhaus oddi wrth y buddsoddiad sydd ei angen i gefnogi’r newid. Rydym felly’n croesawu cynnwys llinell wariant benodol ar gyfer diwygio’r Senedd yn y gyllideb ddrafft, ac yn nodi bwriad y Comisiwn i ddarparu cymaint o dryloywder â phosibl wrth gyflwyno costau y gellir eu priodoli i’r cynlluniau hyn yng nghyllidebau’r dyfodol.
Gan droi yn awr at bwysau’r gweithlu, bydd y cynnydd mewn costau byw'n effeithio ar bob un ohonom, ond mae’r pwyllgor yn pryderu am ei effaith ar staff y Comisiwn, yn enwedig y rheini ar raddfeydd cyflog is. Rydym yn falch fod holl staff y Comisiwn yn cael y cyflog byw a bod mentrau cadarn ar waith, ond ni ddylai’r Comisiwn orffwys ar ei fri. Dyna pam yr hoffem weld y Comisiwn yn edrych ar ffyrdd y gall ddarparu cymorth ychwanegol i staff sy’n ei chael hi’n anodd, a bod camau’n cael eu cymryd i werthuso’r mentrau sydd eisoes ar waith yn drylwyr i sicrhau bod y cymorth a ddarperir yn cyrraedd y rheini sydd ei angen fwyaf. Roeddwn hefyd yn falch o weld na fydd y Comisiwn yn ystyried diswyddo staff fel mesur i arbed costau yn rhan o’r adolygiad canol blwyddyn y mae wedi’i addo.