Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Rwyf innau'n falch hefyd o'r cyfle i siarad am y cynnig hwn heddiw, cynnig rwyf wedi ei gefnogi ac y bydd Plaid Cymru yn ei gefnogi, a hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon i'r Senedd. Fel y dywedodd, mae'n amserol dros ben.
Gall rhwydweithiau cymdeithasol unigolyn gael effaith sylweddol ar ei iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae astudiaethau wedi dangos bod perthnasoedd cymdeithasol unigolyn yn ffactor yr un mor bwysig â gordewdra, ysmygu neu yfed gormod o alcohol wrth ragweld cyfraddau marwolaethau. Mae'n ffactor wrth wella o salwch, a lle mae diffyg cefnogaeth gymdeithasol, lle ceir amddifadedd cymdeithasol ac unigedd, mae cydberthynas uniongyrchol â chanlyniadau iechyd gwael, ymddygiadau niweidiol a phroblemau iechyd meddwl. Yn wir, mae llawer o astudiaethau'n dweud bod perthnasoedd cymdeithasol iach a chadarnhaol yn bwysicach i iechyd pobl nag effaith ffactorau fel ysmygu neu ordewdra ar farwolaethau. Mae tystiolaeth ar roi'r gorau i ysmygu, er enghraifft, yn dangos mai'r ysgogiad mwyaf yw digwyddiad bywyd cadarnhaol, ac mae cael rhwydwaith cymorth cadarnhaol, gan sicrhau amgylchedd iach o ran perthnasoedd, yn fwy llwyddiannus fel offeryn polisi cyhoeddus na defnyddio cywilydd neu orfodaeth.
Er ei fod yn amlweddog a chymhleth, ni ellir gwadu bod ein llesiant fel cymdeithas yn gysylltiedig, yn anorfod, â chydlyniant a rhyngweithio cymdeithasol, ac mae adroddiad 'Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd' yn egluro sut mae cryfder cymunedau, eu hadnoddau a'u gwytnwch yn creu'r effeithiau cadarnhaol hyn ar iechyd meddwl. Ac rwyf wedi gweld yn fy rhanbarth fy hun sut mae'r hybiau cymunedol lleol hynny, a grwpiau a gofodau cymunedol, wedi helpu i gyfoethogi a grymuso, meithrin empathi a chydweithrediad, ffurfio cysylltiadau a magu hyder, ac rwy'n siŵr y gallwn i gyd feddwl am enghreifftiau yn ein cymunedau. Rwy'n meddwl am waith aruthrol cydlynwyr ardaloedd lleol, y sefydliadau gwirfoddol hynny—mawr a bach—a grwpiau cymunedol sy'n gwneud cymaint i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol o bob math. Ac fel y sonioch chi, Huw Irranca-Davies, mae'r amrywiaeth honno'n allweddol, ac mae adroddiad Mind Cymru yn nodi bod llawer o wahanol fathau o bobl mewn gwahanol fathau o amgylchiadau angen gwahanol fathau o fynediad a chyfleoedd a chyfleusterau a all eu helpu i fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl, a llawer o'r problemau a all eu hachosi neu eu gwaethygu.
Mae hefyd yn tanlinellu'r rhwystrau, y clywsom amdanynt gan Jenny, a all atal gwahanol grwpiau rhag gallu elwa o fod yn rhan o rwydweithiau cymdeithasol, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd hefyd yn ymwybodol iawn fod yr argyfwng costau byw a'r pwysau ar gyllid cyhoeddus yn rhoi pwysau ar y strwythurau sy'n helpu i gefnogi cyfalaf cymdeithasol a diogelu asedau cymunedol. Yn union fel y byddem, yn naturiol, yn gwrthwynebu cau ysbytai, dylid gwrthsefyll unrhyw fygythiad i lyfrgelloedd, neuaddau cymunedol, canolfannau celfyddydau a chyfleusterau chwaraeon yn yr un modd. Un o'r ymgyrchoedd cyntaf i mi fod yn rhan ohoni yn fy nghymuned oedd ymgyrch yn erbyn toriadau a oedd yn bygwth dyfodol fy nghanolfan gelfyddydau gymunedol leol ym Mhontardawe, oherwydd gwyddwn y byddai'r grwpiau a ddefnyddiai'r gofod hwnnw'n colli llawer mwy na rhywle i weld pantomeim neu gyngerdd. Dylid ystyried Siediau Dynion yn gyfleusterau lawn mor hanfodol â chlinigau iechyd dynion; dylid ystyried bod boreau coffi yr un mor bwysig ag unrhyw ganolfannau cyngor ffurfiol.
Yn ddiamheuaeth, mae tlodi ac esgeulustod economaidd, yn ogystal ag ideoleg fwriadol, wedi cynyddu'r bygythiadau i weithgarwch cymdeithasol buddiol o'r fath. Mae pwysigrwydd cydweithredu, a'n dynoliaeth gyffredin, hefyd yn cael ei golli pan fo unigolyddiaeth yn cael ei ddyrchafu'n wleidyddol dros werthoedd a rennir, ac mae rhai grwpiau'n cael eu difrïo a'u gwneud yn fychod dihangol. Felly, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddangos ei bod yn gweld gwerth pobl, yn rhannu eu pryderon—