7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:30, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am dderbyn ymyriad. Mae'r cynnig yn sôn am asedau cymunedol a phwysigrwydd asedau cymunedol, ac rydych wedi sôn amdano eich hun a'i bwysigrwydd i'r Llywodraeth. Gwyddom fod llawer o asedau cymunedol yn cael eu colli, fel capeli a sinemâu a thafarndai, a gwyddom mai'r ffordd orau i gymunedau yw cymryd rheolaeth ar yr asedau hynny a grymuso cymunedau'n briodol drwy roi cyfle iddynt eu rheoli. Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Lafur wedi addo hyn ers 2007, gan ddweud y byddai'n deddfu i rymuso cymunedau a chaniatáu i gymunedau gymryd rheolaeth ar asedau cymunedol, ond mae'r ddeddfwriaeth honno'n dal i fod heb ei llunio. Onid ydych yn cytuno mai un o'r pethau gorau y gallech ei wneud yw cyflwyno deddfwriaeth i rymuso cymunedau a chaniatáu i gymunedau gymryd rheolaeth ar yr asedau hynny?