Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Mae yna 3,000 o swyddi nyrsio gwag yn yr NHS yng Nghymru. Mae nyrsys yn gadael. Mae methiant i gadw staff yn argyfwng. Ac oni bai bod y cwestiynau yma o gwmpas cyflogau yn cael eu hateb, colli mwy y gwnawn ni—argyfwng yn dyfnhau. Mae mwy a mwy wedi bod yn troi at weithio drwy asiantaeth, yn cyfrannu at y bil asiantaeth enfawr o ryw £130 miliwn y flwyddyn erbyn hyn—bil na allwn ni ddim ei fforddio, a bil fyddai'n talu am gyflogau bron i 5,000 o nyrsys newydd.