Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 23 Tachwedd 2022.
'Mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod', ond beth am geisio trafod er mwyn dod â'r streic i ben? Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi trafod, yn ofer, ond pam ar y ddaear na wnaiff Gweinidog iechyd Llafur Cymru gynnull pawb o amgylch y bwrdd drwy fforwm partneriaeth Cymru, sydd yno ar gyfer yr union ddiben hwn? Nodais yr wythnos diwethaf nad oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi ymateb i'r ohebiaeth a anfonwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar 25 Hydref, yn gofyn am i'r trafodaethau hynny gael eu cynnal. Megis drwy hud, mae’r Gweinidog wedi ymateb yn yr ychydig funudau diwethaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf—yr ohebiaeth gyntaf ers canlyniad y bleidlais ar y streic. Ond eto, nid oes unrhyw ymrwymiad i gyfarfod ar gyfer trafodaethau newydd ynghylch cyflogau. Yr hyn a welaf yw Llywodraeth yn paratoi ar gyfer streic y nyrsys, pan ddylai fod gennym Lywodraeth yn ceisio atal y streic honno yn y lle cyntaf.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na chyflogau—mae'n bwysig cofio hynny. Mae nyrsys hefyd yn dymuno gwybod eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn cael amser ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, nad yw lefelau staffio yn eu rhoi hwy na’u cleifion mewn perygl, fod yna gynllun ar gyfer y gweithlu wedi’i anelu at lenwi rhywfaint o'r 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru. Ond mae cyflogau'n rhan allweddol o allu dangos i nyrsys eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Ers gormod o amser, mae cyflogau wedi'u gwasgu. Ers gormod o amser, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gwneud toriadau, toriadau a thoriadau; gyda'u hanghymhwysedd economaidd yn gwaethygu'r hyn a oedd eisoes yn argyfwng gwariant cyhoeddus. Ond ers gormod o amser, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio hynny fel rheswm i gilio oddi wrth ei chyfrifoldebau. Beth bynnag yw'r cyd-destun, mae llywodraethu bob amser wedi ymwneud â blaenoriaethu. Caf glywed eto heddiw, fel y caiff fy nghyd-Aelodau glywed, 'Ble fyddech chi'n dod o hyd i'r arian?' Ac rwyf fi a fy nghyd-Aelodau wedi bod yn agored. Rydym wedi eich annog i edrych i weld sut y gallwch ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i chi—trethiant, cronfeydd wrth gefn, ailddyrannu. Ond nid wyf fi yn y Llywodraeth. Mae llywodraethu'n fraint. Mae'n gyfrifoldeb enfawr. Ac yn yr achos hwn, mae'n gyfrifoldeb i osgoi argyfwng dyfnach fyth yn y GIG na'r un rydym eisoes yn ei wynebu.