Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Faint ohonom a fu'n ddiolchgar am y gofal y mae perthynas wedi'i gael pan fyddant yn sâl? Rwy'n sicr yn ddiolchgar am y gofal a gafodd dau o fy mam-guod a thad-cuod yn ystod COVID. Ni fyddai'r gofal hwnnw y dibynnwn arno yn bosibl, ac ni fyddai ansawdd y gofal cystal, heb nyrsys—nyrsys y gofynnir iddynt bob shifft i fynd y filltir ychwanegol, ac y gofynnwyd iddynt weithio shifft ychwanegol yn ystod y pandemig. Y gwir yw bod mwy na hanner nyrsys Cymru wedi digalonni.
Mae Leanne Lewis, nyrs yn fy rhanbarth i, un o gyd-drigolion Pencoed, wedi dweud yn gyhoeddus ac wrthyf fi sut mae'n argyfwng staffio go iawn. Dywedodd fod staff yn gadael yn eu heidiau. Mae Leanne yn dweud wrthym fod llawer o salwch staff yn deillio o orflinder a chymhlethdodau ar ôl COVID, ac nad oes cymysgedd cywir o sgiliau ar y wardiau. Fel y mwyafrif o nyrsys—sef 78 y cant ohonynt, gyda llaw—roedd Leanne yn teimlo bod gofal cleifion yn cael ei beryglu.
Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi galw am estyniad i adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Yn flaenorol, mae'r Gweinidog wedi dweud bod adran 25B yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mai'r ffaith ei bod wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n rhoi hygrededd i'r Ddeddf, a bod unrhyw alwad i ymestyn adran 25B yn esgeuluso sylfaen y Ddeddf. Wel, fe fyddwn i'n dweud bod y dystiolaeth yno. Mae'n llethol. Mae yno heddiw yn yr hyn y mae nyrsys ar draws GIG Cymru yn ei ddweud wrthym. Mawredd, roedd yn adroddiad Tawel Fan, yn ôl ym mis Medi 2014. Mae hyn oll wedi amlygu difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein nyrsys yn gwneud popeth yn eu gallu i liniaru'r problemau, ond fel pawb, ni allant fod ym mhobman ar unwaith, ni waeth faint y maent eisiau bod.
Yn y pen draw, mae angen recriwtio a chadw staff yn well. Dof yn ôl at Leanne. Mae hi'n dweud wrthym fod nyrsys wedi'u trawmateiddio'n llwyr ac wedi cael llond bol ar fethu rhoi'r gofal y maent am ei roi i'w cleifion, a'r gofal y maent yn ei haeddu. 'Mae'n dorcalonnus', meddai wrthym,
'cael cydweithwyr yn fy ffonio ar ôl shifft yn eu dagrau oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt wedi gallu darparu'r gofal y dymunant y gallent fod wedi'i roi, a hynny oherwydd prinder staff.'
Dylai Tawel Fan fod wedi canu larymau i'r Llywodraeth, ond mae'r problemau wedi parhau a gwaethygu, ac o ganlyniad i ddiffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth, y bobl sy'n talu'r pris yw staff a'u cleifion. Yn eich ymateb, Weinidog, byddwn yn croesawu pe bai'r Llywodraeth yn barod i ymestyn adran 25B.
Nawr, mae galwadau mynych wedi bod ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i werthfawrogi ein gweithlu nyrsio. Ym mis Mehefin 2021, ysgrifennodd 16 o sefydliadau at y Prif Weinidog i annog y Llywodraeth i sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio ac ehangu adran 25B i gynnwys wardiau i gleifion mewnol iechyd meddwl a lleoliadau cymunedol. Ym mis Hydref 2021, gofynnodd y byrddau iechyd am fwy o gyllid, adnoddau a nyrsys i baratoi ar gyfer ehangu i gynnwys wardiau pediatrig. Ac roedd llai o ddigwyddiadau cleifion yn 2021 hefyd, lle cafodd nyrsio ei ystyried yn ffactor ar wardiau a oedd wedi'u cynnwys o dan adran 25B, o'i gymharu â 2019.
Dewis olaf yw streic, fel bob amser. Ni waeth pa ddiwydiant rydych chi ynddo, nid oes neb eisiau streicio. Ond mae diffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa wedi gwneud i aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol deimlo fel pe nad oes ganddynt opsiwn arall, am y tro cyntaf yn y 100 mlynedd ers eu sefydlu. Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov yng Nghymru fod 85 y cant o'r cyhoedd yn cefnogi codiad cyflog i nyrsys. Gallai'r holl bobl hynny fod yn gleifion GIG Cymru. Heb weithlu nyrsio, ni all y GIG weithredu. Heb godiad cyflog uwch na chwyddiant, ni fydd gwelliannau'n bosibl i wasanaethau i gleifion. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gael trafodaethau agored gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac ymrwymo go iawn i godi cyflogau nyrsys.