9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:36, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Defnydd cwbl briodol o amser trafod yn y Siambr y prynhawn yma. 

Bydd streic yn arwain at ganlyniadau dinistriol i gleifion, ac rydym yn gwybod bod chwech o'r saith bwrdd iechyd wedi pleidleisio o blaid streicio. Rwy'n credu bod hynny'n dangos cymaint y mae nyrsys eisiau i Lywodraeth Cymru wrando arnynt. Rwyf am ddweud wrth y Gweinidog: rhaid ichi wneud popeth yn eich gallu i osgoi streic nyrsio yn ogystal ag atal pwysau ar y gweithlu. 

Os caf siarad am y gwelliannau heddiw, byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru'n llawn. Rwy'n siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi dileu pwynt 2 o gynnig Plaid Cymru. Rydym wedi ychwanegu gwelliant ein hunain, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn. I fod yn glir iawn ar hyn, nid yw'r Gweinidog wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg, ac nid ydynt ond newydd ymateb i'r cais a wnaethant y mis diwethaf. Fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, nid oes gan y Gweinidog gynlluniau o hyd i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a'r hyn sy'n fy ngwneud yn rhwystredig yw bod y Gweinidog yn ceisio osgoi pan ofynnir y cwestiwn hwn iddi, ac yna'n ymateb i bwynt gwahanol. Efallai eich bod yn cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod materion eraill, ac efallai eich bod yn cyfarfod ag undebau, ond nid ydych wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg. A dyna ein gwelliant i'r cynnig y prynhawn yma, Weinidog. Gobeithio y gwnewch chi gadarnhau y byddwch yn cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac yn cefnogi ein gwelliant heddiw.

Nawr, fel mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, mae'n ymwneud â mwy na chyflog yn unig, wrth gwrs. Mae meysydd eraill i'w harchwilio—amodau allweddol, fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a mynd i'r afael â'r bylchau staffio enfawr yn y GIG. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy ar frys hefyd, fel bod gweithlu'r GIG yn cael cefnogaeth lawn. Ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n nodi bod Rhun wedi gofyn i chi warantu, yn ei sylwadau agoriadol, ond hoffwn ailadrodd hynny fy hun, Weinidog: a wnewch chi warantu y bydd bwrsariaeth ffioedd dysgu'r nyrsys yn cael ei diogelu ar gyfer y dyfodol yn eich sylwadau y prynhawn yma?

Weinidog, yr wythnos diwethaf yn y Siambr fe wnaethoch ateb un o fy nghyd-Aelodau drwy ddweud eich bod wedi cael llond bol; roeddech chi wedi cael llond bol ar rai o'r cwestiynau a ofynnwyd i chi. [Torri ar draws.] Fe ddywedoch chi hynny, Weinidog; fe ddywedoch chi eich bod wedi cael llond bol ar rai o'r cwestiynau a gâi eu gofyn i chi. Wel, a gaf fi ddweud fy mod innau wedi cael llond bol, rwy'n teimlo'n rhwystredig pan nad yw Gweinidogion yn cymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae ganddynt rym drosto yma? Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru ers 20 mlynedd, a chi, Weinidog—[Torri ar draws.] Fe ddof at hynny nawr, peidiwch â phoeni, Ddirprwy Weinidog. Ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am gyflog ac amodau nyrsys hefyd. Felly, rwy'n cael llond bol pan fyddwch chi'n pwyntio eich bys—mae'n gyfrifoldeb i fyrddau iechyd, mae'n gyfrifoldeb i San Steffan, rydych chi eisiau mwy o arian—gan osgoi'r cyfrifoldeb yma drwy'r amser.

Mae datganiad yr hydref newydd gael ei gyhoeddi. Bydd Llywodraeth Cymru'n cael £1.2 biliwn ychwanegol o arian canlyniadol. Gallwch chi, Weinidog, dorri'r brethyn fel y dewiswch chi ei wneud yma. Gallwn enwi toreth o feysydd lle credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwario arian yn amhriodol, neu wastraffu arian. Felly, mae cyfrifoldeb arnoch chi yma i dorri eich brethyn eich hun. Gallwn sôn am y gwahanol safbwyntiau yn y Siambr hon am y £100 miliwn sydd ar fin cael ei wario ar 30 o Aelodau newydd o'r Senedd. Mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond mae hynny'n cyfateb i 4,000 o nyrsys newydd gymhwyso. Bydd y ddadl honno'n digwydd eto, rwy'n siŵr. Ond y pwynt yw mai penderfyniadau a wneir yma gennych chi yw'r rhain, Weinidog. Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau'n cefnogi ein nyrsys GIG yn llwyr, a chredwn y dylent gael eu cefnogi yn y proffesiwn y maent yn ei garu. Ac mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru'n dal i fethu llunio cynllun cadw staff nyrsio dros ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi cynllun gweithlu'r GIG yn 2022. 

Rydym yn wynebu gaeaf arall o bwysau difrifol ar y GIG, a dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i osgoi streic ac osgoi rhoi pwysau ar y GIG ar draws Cymru. Weinidog, rwy'n galw arnoch y prynhawn yma ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg a staffio diogel er mwyn osgoi gaeaf o weithredu diwydiannol yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.