9. Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:41, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Fel y nododd Rhun ap Iorwerth, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y lleoedd i fyfyrwyr nyrsio yng Nghymru, ac eithrio 2019-20, pan arhosodd y nifer yn statig. Mae croeso mawr i hynny. Ond yn anffodus, nid yw'r ecsodus o nyrsys sy'n gadael y GIG yn dangos unrhyw arwydd o arafu, ac mae'n amlwg i'w weld fel pe bai'n cynyddu, gan fod llawer o nyrsys yn gadael y proffesiwn yn gynharach yn eu gyrfaoedd. Mewn gwirionedd, pan gyfarfûm â'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ddiweddar, clywais yn uniongyrchol gan staff fod myfyrwyr hyd yn oed yn penderfynu peidio â cheisio am waith gyda'r GIG oherwydd yr hyn y maent wedi'i weld a'i brofi yn ystod lleoliadau gwaith, a'r straen sydd wedi bod arnynt oherwydd yr hyn y maent yn ei ystyried yn lefelau staffio anniogel. 

Dim ond atgyfnerthu profiadau a oedd eisoes yn hysbys mewn perthynas â'r GIG a'r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru a wnaeth y pandemig. Mae'n weithlu sy'n dioddef oherwydd prinder staff, cyflogau isel a morâl isel, ac eto mae ei angen a chaiff ei werthfawrogi'n fawr. Ond y gwir amdani yw bod nyrsys yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n cael ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau, a dyna pam na ddylai fod yn syndod mai'r bygythiad mwyaf i'r gweithlu yw ei gynaliadwyedd, gyda llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag a geir o nyrsys newydd gymhwyso neu nyrsys wedi'u recriwtio'n rhyngwladol.

Mae ymchwil wedi dangos, lle mae llai o nyrsys, fod cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn arosiadau cymhleth mewn ysbyty. Mae byrddau iechyd yn cydnabod bod cadw nyrsys yn broblem, ac mewn sawl adroddiad, a drafodwyd mewn cyfarfodydd dirifedi, maent yn aml yn tynnu sylw at ddiffyg strategaeth genedlaethol ar gadw staff nyrsio. Mae angen ateb cenedlaethol i broblem genedlaethol, ond eto mae'n ymddangos nad oes unrhyw graffu ar gymhelliant na rheoli perfformiad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chadw staff. Mae yna argyfwng staffio amlwg, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â mater cadw staff os ydym am weld gwelliannau.

Fel y nodwyd eisoes, ceir amryw o strategaethau i fynd i'r afael â'r cyfraddau uchel o swyddi gwag, megis y dull cenedlaethol Cymru gyfan, a cheir mentrau caffael effeithiol a chefnogaeth i nyrsys rhyngwladol. Fodd bynnag, o ran cadw a recriwtio staff, rydym eisoes yn gwybod beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth i nyrsys, oherwydd eu bod wedi dweud wrthym, sef codi cyflogau nyrsys a sicrhau bod lefelau staffio'n ddiogel. Gyda phwysau'r gaeaf ar ei ffordd yn ogystal â'r argyfwng costau byw, fe wyddom mai dim ond gwaethygu a wnaiff y sefyllfa hynod bryderus yn GIG Cymru. A bydd y risg bresennol i gleifion oherwydd prinder staff nyrsio a gweithlu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac sydd wedi ymlâdd yn cynyddu.

Credwn fod ein nyrsys a'r cyhoedd yn haeddu gofal priodol a digonol. Yr unig ffordd i ddenu a chadw staff nyrsio yw eu gwobrwyo, a'u gwobrwyo'n dda am eu sgiliau a'u hymrwymiad, ac mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda chodiad cyflog uwch na chwyddiant. Nid fy ateb i na Phlaid Cymru yw hwn—dyma beth y mae nyrsys wedi dweud wrthym fod angen iddo ddigwydd. Mae hyn yn rhywbeth a ddywedwyd wrthyf wrth gyfarfod â hwy mewn ysbytai, a chlywed yn uniongyrchol ganddynt am yr heriau go iawn y maent yn eu hwynebu, a pham fod rhai pobl yn teimlo nad oes ganddynt opsiwn ond gadael proffesiwn y maent yn malio'n wirioneddol amdano.

Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ddangos ein gwerthfawrogiad o'r GIG drwy sefyll ar garreg y drws a chlapio, ond nid yw dweud 'diolch' yn ddigon mwyach, ac mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, a hoffwn ofyn i bob Aelod o'r Senedd gefnogi ein cynnig a chefnogi ein nyrsys heddiw.