Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Fodd bynnag, rwy'n hapus i dderbyn argymhelliad 4. Rydym ni’n derbyn argymhelliad 7 mewn egwyddor ac yn derbyn 8. O ran aelodaeth y cyngor, rwy'n rhannu barn y pwyllgor y dylai'r aelodaeth fod yn eang ac yn gynrychioliadol. Mae gwaith eisoes wedi dechrau gyda phartneriaid cymdeithasol i sicrhau bod y broses o enwebu'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn adlewyrchu hyn, a byddaf yn diweddaru'r pwyllgor ar ganlyniad y gwaith hwnnw cyn Cyfnod 2.
Mae argymhelliad 9 yn ymwneud â'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn adran 16 o'r Bil. Barn y pwyllgor yw bod angen mwy o ran gorfodi neu gydymffurfio â'r ddyletswydd hon. Mae drafftio'r argymhelliad hwn yn gofyn i mi esbonio safbwynt y Llywodraeth ar y materion hyn, ac rwy'n hapus i wneud hynny eto heddiw. Fe wnes i nodi mewn tystiolaeth i'r pwyllgor bod dyletswydd adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus geisio yn hytrach na sicrhau consensws neu gyfaddawdu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig neu eu cynrychiolwyr staff wrth osod eu hamcanion llesiant. Os, am ba bynnag reswm, nad yw'n bosib dod i gytundeb er gwaethaf yr ymdrechion gorau, bydd y ddyletswydd i geisio consensws neu gyfaddawd yn cael ei ryddhau er hynny. I bob pwrpas, ni fyddai dim i gyfryngu rhwng y ddwy blaid dan sylw.
Lle gallai fod pryderon am sut mae corff cyhoeddus yn mynd ati i gyflawni ei swyddogaethau statudol, mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau i ymchwilio i gwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cwynion am gamweinyddu, ac mae rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli a gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut maen nhw'n sicrhau gwerth wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn y pen draw, gellir herio gweithredoedd cyrff cyhoeddus yn y llysoedd.
Mae argymhellion 11, 12 a 21 yn cyfeirio at y gydberthynas rhwng y Bil a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ni fydd gwelliant arfaethedig i Ddeddf 2015, sy'n disodli'r cyfeiriad at 'waith addas' gyda 'gwaith teg', yn newid naill ai cylch gwaith neu swyddogaethau'r comisiynydd, ac nid oes angen i ni wella ein Bil i ddyblygu'r ddyletswydd sydd gan gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at bob nod llesiant wrth arfer eu swyddogaethau, sydd eisoes yn cynnwys nod llesiant Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Am y rhesymau hyn, nid ydym yn derbyn argymhellion 11 na 12.
O ran argymhelliad 21, rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn yn rhoi mwy o fanylion ar sut y bydd ymchwiliadau caffael yn rhyngweithio â'r pwerau sy'n bodoli eisoes gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, er na fydd hyn yn bosibl nes y bydd diwygiadau caffael Llywodraeth y DU yn cael eu cwblhau.
Mae argymhelliad 13 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Comisiwn Elusennau i benderfynu a fyddai gwneud addysg bellach a sefydliadau addysg uwch a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol yn effeithio'n negyddol ar eu statws cyfrifyddu cenedlaethol a/neu statws elusennol, gyda'r bwriad o ddod â nhw o fewn cwmpas y Bil oni ddylai hyn fod yn wir. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal, er y dylwn i ychwanegu bod ffactorau eraill, gan gynnwys y gallai rhai o'r cyrff hyn weithredu y tu allan i Gymru, sydd hefyd yn dylanwadu ar y drafodaeth.
Gan droi at argymhelliad 15, sy’n gofyn i ni osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod targedau ar gyfer cyfran y caffael sy'n cael ei gwario yng Nghymru ac sy’n cael ei gwario gyda mathau penodol o gyflenwyr, megis busnesau bach a chanolig neu fentrau cymdeithasol, mae'r Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ac rydym ni’n cytuno â'r rhagosodiad y dylem ni fod yn defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru a gellid cyflawni hyn drwy osod targedau, fel sy’n cael ei adlewyrchu yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Byddaf yn parhau i gynnal trafodaethau pellach gyda phartneriaid mewn perthynas â'r argymhelliad hwn, a diweddaru'r pwyllgor cyn Cyfnod 2.
Mae argymhellion 16 i 19 yn ymdrin â rhan caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol y Bil. Mae'r Llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion hyn, yn amodol ar y trafodaethau pellach sy'n ymwneud ag argymhelliad 15, a bydd yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol i'r Bil yn ogystal â'r memorandwm esboniadol a'r canllawiau perthnasol.
Mae arnaf ofn na allaf dderbyn argymhelliad 22 a 23 yn ymwneud â'r cymalau ymchwiliadau caffael, gan na fyddai'n briodol ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r archwilydd cyffredinol cyn cyhoeddi pob ymchwiliad. Ni fyddaf ychwaith yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 yn manylu ar y meini prawf a fyddai'n sbarduno ymchwiliad o dan adran 41 ar wyneb y Bil. Byddai hyn yn llawer rhy gyfyng. Bydd rhestr nad yw’n gynhwysfawr o feini prawf yn cael ei nodi yn y canllawiau, sef y lle priodol ar ei gyfer.
Mae argymhellion 25 a 26 yn gofyn i ni wneud gwaith pellach i fireinio'r costau a nodir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Bil. Rwy'n derbyn yr argymhellion hyn. Mae'r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill, a bydd asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig yn cael ei osod o flaen Cyfnod 3.
Mae'r ddau argymhelliad terfynol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â'r cyngor partneriaeth gymdeithasol cysgodol. Er nad ydw i mewn sefyllfa i gytuno i gyhoeddi'r holl bapurau, fel yr awgrymwyd gan y pwyllgor yn argymhelliad 27, rwy'n derbyn argymhelliad 28 mewn egwyddor, a byddaf yn sicrhau bod y pwyllgor yn cael adroddiad cryno, a gobeithio y bydd Aelodau'n ei gael yn ddefnyddiol.
Gan droi nawr at adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y cyntaf o'i argymhellion yw bod cyfeiriad i'r diffiniad o 'benderfyniadau o natur strategol' sydd yn y canllawiau a wneir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei ychwanegu at y Bil. Nid yw'r Llywodraeth o'r farn ei bod yn briodol cynnwys o fewn adran ddehongli'r Bil ddiffiniad sy'n cael ei nodi mewn mannau eraill yn unig mewn canllawiau statudol. Mae'r canllawiau y cyfeirir atynt yn cael eu cyhoeddi o dan bŵer ar wahân mewn Deddf arall o bwrpas penodol, na fydd o bosibl yn cyd-fynd â'r dyletswyddau yn y Bil. Mae'r Bil yn darparu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus ynghylch gweithredu'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, a dyna'r ffordd briodol o ymdrin â materion fel hyn, felly ni allwn dderbyn argymhelliad 1.
Rwy'n derbyn argymhellion 2, 4 a 5 a byddaf yn sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'r Bil a'r canllawiau. Nid ydym yn derbyn argymhelliad 6, oedd yn gofyn i ni sicrhau bod fersiwn ddrafft o'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu ar gael cyn Cyfnod 3. Ein bwriad yw bod y cod yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ac mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Byddwn felly yn ymgysylltu â'r grwpiau hyn, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau ac undebau o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na chyhoeddi drafft, yna ymgynghori arno.
Mae argymhellion 3, 7 ac 8 i gyd yn cwestiynu'r dewis o weithdrefn yr ydym ni wedi'i chynnig ar gyfer gwneud y cod a'r rheoliadau. Mewn perthynas â'r cod allanoli gwasanaethau cyhoeddus a’r gweithlu, fel y soniais yn gynharach mewn perthynas ag argymhelliad 24 y pwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, mae cyhoeddi canllawiau o'r fath yn swyddogaeth i Weinidogion Cymru, a fydd, am resymau sydd wedi’u hamlinellu uchod, yn destun ymgynghoriad llawn â rhanddeiliaid, a fydd, yn fy marn i, yn rhoi cyfle priodol i gael mewnbwn gan y rhai sydd agosaf at bwnc y cod, yn fy marn i, ac felly nid wyf yn bwriadu diwygio'r Bil i wneud y cod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae argymhellion 7 ac 8 yn ymwneud â'r rheoliadau yr ydym ni’n eu cyflwyno o dan adran 38 o'r Bil. Rydym ni’n hyderus ein bod ni wedi cymhwyso'r dull gweithredu cywir mewn perthynas â phob un, ac felly nid ydym yn bwriadu cefnogi'r argymhellion hyn. Fodd bynnag, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi mwy o fanylion am hyn.
Yn olaf, hoffwn ymddiheuro i'r pwyllgor am gyfeiriad cyfeiliornus at gonfensiwn yn fy llythyr ar 15 Hydref. Codwyd hyn yn adroddiad y pwyllgor o dan argymhelliad 9, ac rwy'n dymuno rhoi ar gofnod bod y cyfeiriad hwn wedi'i gynnwys mewn camgymeriad a chydnabod nad oes confensiwn o'r fath yn bodoli.
Wrth symud ymlaen i adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n falch o dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, ar wahân i 3 a 9. Bydd y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach, yn sicrhau bod fersiwn ddiwygiedig o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael mewn da bryd cyn Cyfnod 3. Mae'r ddau argymhelliad na allaf eu derbyn yn gofyn am lefel o fanylion ar effeithiau'r darpariaethau caffael cymdeithasol gyfrifol nad oes modd ei chyflawni'n realistig yn yr amser rhwng nawr a Chyfnod 3. Mae cyfyngiad ar yr hyn sy'n bosib, o ran dadansoddi ac amcangyfrifon costau, cyn i unrhyw drefniadau newydd ddod i rym ac yna cael digon o amser i'w hymgorffori. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor yn deall, er fy mod wrth gwrs yn gwerthfawrogi'r ysbryd y cafodd yr argymhellion hyn eu cyflwyno ynddo, a rhoi ar gofnod fy sicrwydd y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i wella'r elfennau hynny o'r asesiad effaith rheoleiddiol y gellir eu gwneud yn fwy cywir rhwng nawr a Chyfnod 3, yn y pen draw, bydd ymarferion fel y rhain ond yn gallu rhoi amcangyfrifon gorau o gostau a manteision i ni.
Wrth gloi, Llywydd, rwyf eisiau diolch eto i holl Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn sydd wedi ymgysylltu mor adeiladol â'r ddeddfwriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu, gan aelodau eraill o bob rhan o'r Siambr, ac i barhau i weithio ar y cyd ac yn adeiladol ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).