Mawrth, 29 Tachwedd 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r cyfarfod y prynhawn yma.
Y Prif Weinidog sydd i ateb cwestiynau yn gyntaf, ac mae'r cwestiwn gan Tom Giffard.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad cleifion at eu meddyg teulu? OQ58800
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Gorllewin Casnewydd? OQ58804
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol Neuadd Dewi Sant? OQ58805
4. Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys? OQ58801
5. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu ar ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru? OQ58799
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y chwistrelliad o £1.2 biliwn i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU o fudd i bobl sir Ddinbych? OQ58777
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan ysbytai weithdrefnau rhyddhau diogel yn eu lle? OQ58780
8. Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod peiriannau ATM yn hygyrch mewn cymunedau yng ngogledd Cymru? OQ58775
Yr eitem nesaf yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ar gyhoeddi’r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Logan Mwangi, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog...
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar goffáu cyhoeddus yng Nghymru: canllawiau i gyrff cyhoeddus. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, i...
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiad Atodlen 12 a Diwygio Canlyniadol) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
Eitem 6, cynnig i amrywio’r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud...
Eitem 7, y Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Eitem 8 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn...
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia