Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid. Rydym ni wedi cyflwyno cyfanswm o 11 argymhelliad, ond o ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.
Er ein bod ni’n gefnogol i nod y Bil, un o'r prif bryderon i ni oedd diffyg data a nifer y costau anhysbys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. O ganlyniad roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r pwyllgor asesu goblygiadau ariannol cyffredinol y Bil. Rydym ar sawl achlysur wedi mynegi ein barn y dylai asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys yr amcangyfrif gorau posibl. O ganlyniad, rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Dirprwy Weinidog a'i chydweithwyr gweinidogol bod nifer o'n hargymhellion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgymryd â gwaith pellach i asesu'r costau. Mae'n siomedig hefyd bod yn rhaid i'r pwyllgor wneud y pwyntiau hyn yn barhaus, ac mae'n annog y Dirprwy Weinidog i wrando ar ein hargymhellion, a gweithredu arnynt.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi siarad yn y Siambr o'r blaen am ein pryderon o chwyddiant cynyddol ar gost deddfwriaeth. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi yn dweud y dylid dileu effeithiau chwyddiant cyffredinol wrth amcangyfrif cost Biliau. Fodd bynnag, o ystyried y gyfradd chwyddiant uchaf ers 40 mlynedd a'r ansicrwydd y bydd grant bloc Llywodraeth Cymru yn codi ar yr un lefel, rydym ni’n credu y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol ystyried chwyddiant wrth gyfrifo costau posibl. Mae gan y Bil gyfnod arfarnu pum mlynedd ac felly gallai chwyddiant cynyddol arwain at gostau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym ni’n argymell bod y Dirprwy Weinidog yn diweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i fodelu costau yn seiliedig ar ddata chwyddiant a ragwelir drwy gydol cyfnod arfarnu'r Bil.
Gan droi at y costau sy'n ymwneud â'r ddyletswydd caffael cymdeithasol gyfrifol sydd yn y Bil, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y byddai'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ysgwyddo costau o £20.5 miliwn a £6.5 miliwn yn y drefn honno. Mae nifer o senarios posibl wedi'u nodi a allai godi o'r disgwyliad cynyddol ar ddarparu canlyniadau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol, gan gynnwys defnydd ehangach o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy; staff yn derbyn mwy o hyfforddiant a thelerau ac amodau gwell; ac amser staff wrth fynychu hyfforddiant ychwanegol.
Fe wnaethom ni ofyn a oedd ymdrechion wedi'u gwneud i fodelu'r senarios posib i benderfynu ar gostau posib, a dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym, gan fod y Bil yn cwmpasu ystod enfawr o gyrff cyhoeddus, nad oedd ganddi'r data ar hyn o bryd i fesur y waelodlin. O ganlyniad, mae ein hargymhelliad 3 yn galw am wneud gwaith pellach i asesu'r costau i gyrff cyhoeddus a phreifat sy'n ymwneud â'r ddyletswydd hon. Dylai'r gwaith hwn gynnwys dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o gostau hefyd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig, gan fy mod yn deall nad yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
O ran y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â chostau cynnig a chyflogau byw go iawn, roedd y pwyllgor o'r farn y gallai mwy o bwyslais ar ganlyniadau caffael cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol, yn y tymor byr, gynyddu prisiau ymgeisio. Rydym ni’n poeni felly y gallai busnesau ymateb i'r cynnydd drwy leihau gweithwyr neu basio'r gost ymlaen i gwsmeriaid. Er mwyn lliniaru hyn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gofynion ychwanegol sy'n cael eu rhoi ar fusnesau yn gymesur, a bod y canllawiau statudol yn rhoi'r cymorth angenrheidiol i staff caffael a rheoli contract yng Nghymru.
Gyda mwy o bwyslais ar waith teg, byddai cost ychwanegol arall tebygol yn cael ei ysgwyddo drwy fabwysiadu’r cyflog byw go iawn yn gynyddol trwy gadwyni cyflenwi. Er na all Llywodraeth Cymru orfodi'r cyflog byw go iawn, dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ei bod ni’n disgwyl y bydd y Bil yn cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr un agwedd ar arferion cyflogaeth gwell. Rydym ni’n croesawu'r pwyslais cynyddol ar waith teg yn fawr ac rydym ni’n gobeithio y bydd cyrff cyhoeddus a phreifat yn mabwysiadu'r cyflog byw go iawn, fodd bynnag, mae hwn yn faes yr hoffem ni gadw llygad arno, ac mae ein hargymhelliad 7 yn gofyn i'r adolygiad ôl-weithredu ar gyfer y Bil hwn gynnwys gwybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar y cyflog byw go iawn o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.
Costau rheoli'r contract adeiladu yw'r dyraniadau mwyaf sylweddol a wnaed yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar gontractau adeiladu mawr gyda gwerthoedd dros £2 miliwn. Er y bydd y darpariaethau yn y Bil hwn yn gosod gofynion ychwanegol ar sefydliadau sy'n rheoli contractau a chostau ychwanegol, gobeithiwn y bydd yn arwain at welliannau mewn contractau ar draws sectorau ac yn atal arferion anfoesegol, fel caethwasiaeth fodern, rhag digwydd mewn cadwyni cyflenwi.
Serch hynny, rydyn ni'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar fusnesau bach a chanolig. Argymhellwyd bod cymorth penodol yn cael ei ddarparu i fusnesau bach a chanolig i'w galluogi i gymryd rhan mewn contractau—i'w gweld yn argymhelliad 8—a bod dadansoddiad pellach o sut mae'r ddyletswydd hon yn effeithio ar fusnesau bach a chanolig yn cael ei ddarparu—argymhelliad 9. Unwaith eto, rwy'n siomedig—neu byddwn yn siomedig—os nad yw'r argymhelliad hwnnw 9 wedi cael ei dderbyn.
Ac yn olaf, Llywydd, fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, rydym ni’n siomedig gyda'r data cyfyngedig sydd ar gael ar ganlyniadau ariannol y Bil. Am y rheswm hwn, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad canol tymor yn ogystal ag adroddiad gwerthuso pum mlynedd terfynol, a ddylai amlinellu'r costau ariannol sydd wedi cael eu hysgwyddo o ganlyniad i weithredu'r Bil. Diolch.