Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Mae llawer o waith caled yn mynd i rôl graffu y Senedd, a’r cyfan ohono bron y tu ôl i'r llenni, yn enwedig o ran deddfwriaeth. Dyma fy Mil cyntaf fel Gweinidog cyfrifol, ac rwy'n dymuno cofnodi fy niolch i'r pwyllgorau am eu hystyriaeth Cyfnod 1 gofalus ac argymhellion ystyriol.
Hoffwn ddechrau drwy roi sylw i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a chroesawu'r argymhelliad gan fwyafrif o'r Aelodau y dylai'r Senedd gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Mae argymhelliad 2 yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn i'r Llywodraeth fod yn glir am yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei gyflawni trwy'r Bil, a nodi metrigau a chanlyniadau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn. Rwy'n hapus i dderbyn hyn mewn egwyddor ac i dderbyn argymhelliad 20, oedd yn ein hannog i sicrhau bod unrhyw drefniadau adrodd yr ydym ni’n eu gosod ar gyfer ein partneriaid yn gymesur, ac osgoi dyblygu. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gytuno ar y dangosyddion a'r canlyniadau sydd eu hangen i fonitro effaith y ddeddfwriaeth hon, er y bydd y gwaith hwnnw'n cymryd amser ac yn dibynnu, i raddau, ar y materion y mae'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn penderfynu canolbwyntio arnyn nhw.
Mae argymhellion 10, 14 a 24 yn ymdrin â'r canllawiau fydd yn cael eu cyhoeddi i bartneriaid cyn gweithredu. Mae'r Llywodraeth yn derbyn 10 a 14, a bydd y canllawiau hynny'n glir ar yr amcanion yr ydym ni’n eu dilyn a'r disgwyliadau a'r dyletswyddau yr ydym ni’n eu gosod arnon ni ein hunain a'n partneriaid. Mae argymhelliad 24 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau statudol ar ffurf ddrafft ar gyfer ymgynghori, gan gynnwys gyda'r Senedd. Rydym ni’n derbyn hyn mewn egwyddor, ar y sail y byddwn ni’n sicr yn ymgynghori â rhanddeiliaid, ond nid ydym ni o'r farn y dylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r Senedd mewn perthynas â chynhyrchu canllawiau statudol, rhywbeth sydd eisoes wedi'i wneud gan y Llywodraeth drwy ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw arweiniad yn addas i'r diben ac wedi'i dargedu at y gynulleidfa y bwriedir iddo ei dargedu.
Mae argymhellion 3, 5 a 6 yn ymwneud â gweithrediad y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Ni fydd y Llywodraeth yn derbyn yr argymhellion hyn gan y byddant, yn ein barn ni, yn amharu ar ymreolaeth ac annibyniaeth y cyngor ac o bosib yn tanseilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn ymarferol. Nid oes angen cylch gorchwyl gan fod y Bil ei hun yn nodi swyddogaethau'r cyngor ar sut y dylid ymgynghori ag ef. Yn unol â'r dull partneriaeth gymdeithasol, nid mater i'r Llywodraeth yw dweud wrth y cyngor faint o is-grwpiau y dylai eu sefydlu a pha faterion y dylent ymdrin â nhw, na'r dull y dylai ei ddefnyddio ar gyfer ei waith. Mae'r materion hyn mewn gwirionedd yn rhywbeth i'r cyngor ei hun benderfynu arno.