Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Hoffwn ddechrau gydag aelodaeth y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Mae'n ystyriaeth allweddol. Rhaid sicrhau y bydd y corff dylanwadol hwn yn adlewyrchu pob agwedd o gymdeithas Cymru yn llawn. Er mwyn i hyn ddigwydd mae'n rhaid cael hyblygrwydd o ran mecanwaith yr aelodaeth fel bod modd tynnu arbenigedd a phrofiad o faes mor eang â phosib. Os ydym am gyflawni'r agenda mwy uchelgeisiol a'r penderfyniadau cadarn y mae'r Bil yn ei addo, mae angen ystyried hyn. Rwy’n nodi bod argymhelliad 7 yn cael ei dderbyn mewn egwyddor, ac 8 yn cael ei dderbyn, ac yn edrych ymlaen at wneud y gwaith yn ôl yr addewid.
Rhaid i ni hefyd ymdrechu i ddarparu o fewn y Bil i sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n gwybod fod hyn yn bryder nid yn unig i Blaid Cymru, ond mae clymblaid o gyrff o fewn bywyd dinesig Cymru wedi dod at ei gilydd i fynegi eu pryderon bod gweithredoedd i ddatblygu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang drwy gaffael moesegol yn absennol. Mae'r glymblaid hon, sy'n cynnwys Cytûn, Maint Cymru ac Amnest Rhyngwladol eisiau i'r ymrwymiad hwn fod yn fwy amlwg, ac felly ar wyneb y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl ystyriaeth yn cael ei roi i hyn a mynd i'r afael â hi. I gyd-fynd â'n geiriau cynnes â gweithredoedd cynnes, mae hyn yn bwysig.
Nawr, hoffwn droi at elfen gaffael leol y Bil hwn. Rwy'n gwybod y gall caffael cyhoeddus ymddangos fel pwnc sych iawn, ond mae gan hyn y potensial, os cawn ni hyn yn iawn, i uwchgodi'r economi. Ni allwn adael i'r cyfle hwn fynd heibio. Mae caffael lleol, neu'r arian rydyn ni'n ei gadw o fewn ein ffiniau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu prynu gan y sector cyhoeddus, wedi bod yn bwnc llosg i fy mhlaid dros y degawd diwethaf. Nôl yn 2013 galwodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, ar y Llywodraeth Lafur i gyfateb lefelau caffael cyhoeddus yr Alban i greu 48,000 yn rhagor o swyddi i Gymru. Er mwyn cael yr hwb swyddi hwn, byddai wedi gofyn i Gymru fynd o gyfradd caffael cyhoeddus o 50 y cant i 75 y cant. Dychmygwch pe byddem ni’n gallu rhagori ar y ffigwr hwnnw a chyfateb cyfradd caffael cyhoeddus yr Almaen, a oedd ar y pryd yn 98.9 y cant.
Pe bai'r camau beiddgar hynny wedi'u cymryd bryd hynny, dychmygwch yr effaith y byddai hyn wedi'i chael ar greu swyddi, economïau lleol a ffyniant—byddai wedi bod yn seismig. Ers hynny, mae Cyngor Gwynedd, sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru, wedi dangos beth sy'n bosib gydag agwedd gadarnhaol tuag at siopa'n lleol. Arweiniodd eu strategaeth o gadw'r budd yn lleol at hwb sylweddol mewn gwariant lleol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Mae caffael cyhoeddus ar flaen y gad yn agenda'r Llywodraeth hon o'r diwedd, diolch i Blaid Cymru a'r cytundeb cydweithredu. Cafodd hyn ei gynnwys yn benodol o ran polisi prydau ysgol am ddim, ond mae'r Bil hwn yn rhoi'r cyfle i ni ehangu cylch gwaith caffael cyhoeddus a chadw'r bunt Gymreig yn cylchredeg o fewn ein heconomi. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cefnogi swyddi lleol, cynhyrchwyr lleol, ffermwyr lleol a chymunedau lleol fynd y tu ôl i'r Bil hwn, a sicrhau ei fod mor eang, cadarn a buddiol â phosibl.
Felly fy nhri chwestiwn i'r Gweinidog: sut fydd y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn sicrhau bod lleisiau mudiadau bach yn cael eu clywed, a pha fecanweithiau sy'n cael eu hystyried? Sut bydd y Bil yn sicrhau bod y Llywodraeth yn darparu dull sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac a fydd telerau a tharged yn cael eu cynnwys ar wyneb y Bil? Ac rwyf wedi clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud am argymhellion 15 i 19. A oes modd gosod targed caffael o 75 y cant, sydd wedi bod yn bolisi i Blaid Cymru ers amser maith, i ganolbwyntio'r meddwl a sicrhau bod y Bil hwn yn uchelgeisiol pan ddaw at gaffael cyhoeddus? Diolch yn fawr.