Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Diolch Llywydd. Yn gyntaf oll, Prif Weinidog, rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddymuno lwc dda i dîm Cymru heno, cario baner Cymru i'r cae pêl-droed a gobeithio, rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd sawl gwaith yn erbyn yr hen elyn [Chwerthin.] Oherwydd, yn y pen draw, rydym eisiau i'n cefnogwyr ac, yn bwysig iawn, ein tîm aros allan yn Qatar yn hirach a symud ymlaen drwy'r twrnamaint.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, ddechrau mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd £2 filiwn i wella ystafelloedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a'r amgylchfyd y gallai'r bobl yn dod i'r ystafelloedd aros hynny ei brofi. Sut mae'r gwaith o gyflwyno hyn yn mynd yn ei flaen, oherwydd roedd i fod i ddod i ben er mwyn bod yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf?