Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:56, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, heddiw mae Cymru yn cwrdd â Lloegr fel cenedl bêl-droed gyfartal ac annibynnol ar faes chwarae yn Qatar, ac rwy'n siŵr ein bod ni gyd yn gweddïo am yr hyn a fyddai'r enwocaf o fuddugoliaethau. Ond, a ydym yn genhedloedd cyfartal ar feysydd grym a gwleidyddiaeth? Dyna'r cwestiwn a godwyd gan ddyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf. Dywedoch o'r blaen y dylai'r Deyrnas Unedig gael ei gweld nawr fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Ydych chi'n cytuno â'ch Gweinidog cyfatebol yn yr Alban bod dyfarniad yr wythnos diwethaf yn golygu nad yw'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, o leiaf, yn bartneriaeth wirfoddol, pan fo San Steffan nid yn unig yn meddu ar feto gyfreithiol ar hunanbenderfyniaeth ond yn benderfynol yn wleidyddol, mae'n ymddangos, o'i defnyddio?

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol yr wythnos diwethaf mai'r ffordd orau o sicrhau newid cyfansoddiadol positif fyddai ethol Llywodraeth Lafur. A ddylai'r Llywodraeth honno, yn eich barn chi, ymrwymo i greu llwybr clir a gwarantedig i genedl gyfansoddol y DU gynnal refferendwm annibyniaeth pan fo mandad penodol o'i blaid?