Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:59, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Yn y sgwrs a gawsoch gyda Syr Keir Starmer, a wnaeth ef ailadrodd y sylwadau a wnaeth mewn cyfweliad yn gynharach y mis hwn, a gadarnhawyd gan ei lefarydd swyddogol yn dilyn y dyfarniad yr wythnos diwethaf, na fyddai'n cytuno i refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn dilyn yr etholiad cyffredinol nesaf? Onid gwarafun democratiaeth yw hynny? Ac ar y thema honno, beth ydych chi, Prif Weinidog, yn deall yw safbwynt Plaid Lafur y DU o ran datganoli cyfiawnder? Fe wnaethant ei wrthwynebu yn y trafodaethau ar Ddeddf Cymru yn 2017. Pan ofynnwyd y bore 'ma yn Neuadd San Steffan a oedden nhw'n ei gefnogi nawr, gallai Gweinidog cyfiawnder yr wrthblaid, Anna McMorrin, dim ond dweud y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru, ond byddai'r pwyslais, nid ar

'ble mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ond ar sut y mae'n cael ei gyflawni.'

Onid gwarafun democratiaeth yw hynny hefyd? Yn sicr, go brin ei fod yn gymeradwyaeth i'r mandad a enilloch chi yn etholiad 2021.