Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Wel, diolch i Hefin David am hynna. Mae'r pwyntiau mae'n eu gwneud yn bwyntiau rwy'n gwybod bod yr awdurdod lleol ei hun wedi'u clywed ac y bydd yn eu cymryd o ddifrif. Fodd bynnag, bydd dyfodol y neuadd yn cael ei chynllunio, bydd yr awdurdod lleol eisiau sicrhau ei hyfywedd parhaus, nid yn unig ar gyfer y mathau o ddigwyddiadau poblogaidd iawn sy'n digwydd yno, ond yr ystod ehangach honno o ddigwyddiadau ieuenctid, digwyddiadau cymunedol, digwyddiadau cerddoriaeth glasurol, digwyddiadau rhyngwladol, megis Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol a chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Ac er mor heriol yw hi i gynnal gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod o leihau cyllidebau'n sylweddol, gwn y bydd yr ystyriaethau hynny'n fyw iawn ym meddwl yr awdurdod lleol.