Gweithdrefnau Rhyddhau Diogel

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:28, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ym maniffesto 2021, fe wnaethoch chi addo deddfu i gryfhau partneriaethau i ddarparu gofal ac iechyd integredig gwell. Felly, yn sgil y dystiolaeth glir bod cyfathrebu rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn y gogledd wedi torri i lawr ac felly yn fygythiad, pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau gofal ac iechyd integredig gwell, ac na fydd neb arall yn cael ei adael mewn sefyllfa mor fregus? Diolch.