Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:01, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, rydych chi wedi newid eich barn ers yr haf, pan ddywedoch chi:

'Enillodd yr SNP...etholiad ar y sail y bydden nhw'n ceisio refferendwm arall. Sut gellir gwarafun hynny i bobl yr Alban?'

A gofynnwyd yn uniongyrchol i Anna McMorrin a oedd hi'n barod i ymrwymo i ddatganoli cyfiawnder, ac nid oedd hi'n fodlon rhoi'r ymrwymiad hwnnw.

Nawr, a gaf i droi at y canlyniadau i Gymru yn sgil y dyfarniad yr wythnos diwethaf? Yn benodol, ai barn Llywodraeth Cymru yw eich bod yn dal i fod â phŵer Gweithredol i gynnal refferenda, gan gynnwys, os ydych chi'n dewis, ar faterion cyfansoddiadol, gan ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd? Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn galluogi Gweinidogion i gynnal arolwg barn ar sut caiff eu swyddogaethau eu harfer, ac mae adran 60 yn galluogi Gweinidogion i wneud unrhyw beth y maen nhw'n credu sy'n angenrheidiol er mwyn gwella llesiant Cymru. Felly, a fyddai cynnal arolwg barn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru drwy ddefnyddio deddfwriaeth eilaidd, ac felly'n ddiogel rhag heriau cyfreithiol ynghylch cymhwysedd, yn cael ei ganiatáu o bosibl, drwy ddefnyddio'r llwybr hwn yn eich barn chi?